Sifalri

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sifalri ar faes y twrnamaint (o'r Codex Manesse, yr Almaen, dechrau'r 14eg ganrif)

Ideoleg a chôd ymddygiad delfrydol dosbarth y marchogion yn Ewrop yr Oesoedd Canol oedd Sifalri (benthyciad diweddar o'r gair Saesneg chivalry, sy'n fenthyciad yn ei dro o'r gair Ffrangeg Canol chivalrie, Hen Ffrangeg chevalrie, o chevalier "marchog").

Roedd ymddygiad sifalriaidd yn dibynnu ar cysyniadau cymhleth o urddas a chwrteisi. Roedd ei wreiddiau'n hen ond cafodd hwb sylweddol yn ystod yr 12fed ganrif gan y Croesgadau a datblygiad delfrydau serch llys (amour courtois) a llên y Rhamantau Arthuraidd.

Gellid dadlau fod y cysyniad o Sifalri wedi cyrraedd ei uchafbwynt yn Ffrainc (yn arbennig ym Mhrofens a'r de) ac yn y Lefant yn y cyfnod rhwng y Groesgad Gyntaf a'r croesgadau dinistriol diweddarach. Mae croniclau'r cyfnod (e.e. Joinville a Froissart) yn llawn o ddisgrifiadau o anturiaethau a digwyddiadau sifalraidd. Am gyfnod byr rhannai'r Croesgadwyr a'u gwrthwynebwyr Mwslemaidd yr un delfryd arwrol seiliedig ar gymysgedd o ryfela cadarn proffesiynol a pharch ac edmygedd - cyfeillgarwch a chariad hyd yn oed - rhwng arweinyddion y ddwy blaid. Edmygid Saladin yn fawr gan y mwyafrif o dywysogion a chomtau'r Croesgadwyr, er enghraifft, ac roedd gwleddau a thwrnameintau'n rhan o fywyd yr uchelwyr ar y ddwy ochr, yn aml yn eu cwmni ei gilydd.

Dirywiodd sifalri fel delfryd yn yr Oesoedd Canol diweddar ond arosodd yr arfer o gynnal twrnameintiau "sifalrig" rhwysgfawr hyd yr 16eg ganrif.

Delfrydid delfryd Sifalri yn ei dro gan llenorion a hanesyddion Rhamantaidd y 19eg ganrif.