Derwydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mytholeg Geltaidd
Coventina
Amldduwiaeth Geltaidd

Duwiau a duwiesau Celtaidd

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Am y pentref, gweler, Derwydd, Sir Gaerfyrddin.

Yr oedd derwydd yn aelod o ddosbarth o offeiriaid a gwybodusion ymhlith y Celtiaid yn y cyfnod cyn Cristionogaeth. Ceir y cyfeiriadau atynt yn bennaf ym Mhrydain a Gâl. Y gred gyffredinol oedd bod y gair yn dod o'r gair "derwen", ond credir yn awr nad oes cysylltiad â'r goeden; daw o'r Frythoneg *do - are -uid.

Tystiolaeth[golygu]

Awduron Groeg a Rhufeinig[golygu]

Ceir y cyfeiriad cyntaf at y Druridae gan awduron Groegaidd megis Soton o Alexandria, a ddyfynnir gan Diogenes Laertius yn yr ail ganrif CCC. Cyfeiria nifer o awduron Rhufeinig at druides, yn arbennig gan Iŵl Cesar yn ei lyfr Commentarii de Bello Gallico. Dywed fod llawer o ddarpar-dderwyddon o Gâl yn cael eu gyrru i Brydain i'w haddysgu. Dywed awduron eraill megis Diodorus Siculus a Strabo fod y dosbarth offeiriadol Celtaidd yn cynnwys Derwyddon, bardi (beirdd) a Vates (Ofyddion). Dywed Diodorus Siculus a rhai awduron eraill eu bod yn aberthu bodau dynol i'r duwiau.

Llun o ddau dderwydd, ar sail cerflun yn Autun, Ffrainc.

Yn ôl Plinius yr Hynaf (23-79 OC) yn ei lyfr Hanes Naturiol y ceir y cyfeiriad cynharaf ar ran y dderwen a'r uchelwydd yn nefodau'r derwyddon:

Y mae'r [derwyddon] yn meddwl bod popeth sy'n tyfu arni (y dderwen) wedi ei anfon o'r nefoedd... Dyw'r uchelwydd ddim i'w gael yn aml ar y dderwen, a phan geir ef y mae'n cael ei hel gyda defodaeth grefyddol arbennig, os yn bosibl ar chweched dydd y lleuad... Maent yn galw'r uchelwydd wrth enw sy'n golygu, yn eu hiaith hwy, "gwella popeth". Ar ôl paratoi ar gyfer aberth a gwledd o dan y coed, y maent yn dod â dau darw yno ac yn clymu eu cyrn ynghyd am y tro cyntaf. Mae'r offeiriad, wedi ei wisgo mewn gwyn, yn dringo'r goeden ac yn torri'r uchelwydd â chryman aur, ac fe'i delir gan eraill mewn clogwyn gwyn. Yna y maent yn lladd yr ebyrth, gan weddïo ar dduw i fendithio'r rhodd... Maent yn credu bod yr uchelwydd, o'i gymryd mewn diod, yn rhoi ffrwythlondeb i anifeiliaid diffrwyth ac yn gwrthweithio pob gwenwyn.[1]

Ymddengys fod derwydd yn gorfod dysgu corff helaeth o ddysgeidiaeth ar ei gof, gan nad oeddynt yn ei ysgrifennu. Gwaharddwyd dinasyddion Rhufeinig rhag ymwneud a defodau derwyddol gan yr ymerawdwr Augustus ac yn ddiweddarach eto gan Claudius yn 54 OC.

Mae'r hanesydd Rhufeinig Tacitus yn disgrifio'r ymosodiad ar Ynys Môn gan fyddin Rufeinig dan Suetonius Paulinus. Yn wynebu'r milwyr Rhufeinig dros Afon Menai roedd derwyddon a gwragedd (ni ddywedir bod y gwragedd yn dderwyddon) yn cyhoeddi melltithion arnynt. Dywed Tacitus wrth y Rhufeiniaid dorri'r llwyni coed lle cynhelid eu defodau. Mae awgrym fod yr ynys o bwysigrwydd arbennig i'r derwyddon; efallai y gellir cysylltu hyn a'r offrymau niferus a chyfoethog a ddarganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach.

Ffynonellau Cymreig a Gwyddelig[golygu]

Mae cyfeiriad hwyr ar dderwyddon gan Nennius, sy'n dweud yn ei Historia Brittonum i Gwrtheyrn alw deuddeg derwydd ato wedi i Sant Garmon ei esgymuno o'r eglwys Gristionogol. Ceir yr enghraifft gynharaf o'r gair Cymraeg derwydd ei hun yn y gerdd ddarogan Armes Prydain (tua 930), ond mae'n sicr mae gair arall am broffwyd neu ddaroganwr ydyw yn hytrach na "derwydd" yn yr ystyr glasurol.[2]

Ceir llawer o gyfeiriadau at dderwyddon yn llenyddiaeth gynnar Iwerddon, lle maent yn ymddangos fel cynghorwyr y brenhinoedd. Yng Nghylch Wlster mae Cathbad, prif dderwydd llys Conchobar, brenin Wlster, yn cael ei ddilyn gan gant o ddynion ieuanc sy'n dymuno dysgu ei grefft. Yn hanesion Iwerddon gall y derwyddon weld y dyfodol a bwrw hud.

Derwyddon diweddar[golygu]

Ym 1649, mynegodd yr hynafiaethydd John Aubrey'r farn mai'r derwyddon oedd yn gyfrifol am adeiladu Côr y Cewri. Mae'r farn honno dal yn boblogaidd heddiw, ac mae derwyddon modern yn cynnal defodau yno ar y dydd hwyaf o'r flwyddyn. Dechreuodd diddordeb gynyddu yn y derwyddon yn y 18fed ganrif, gyda William Stukeley a chyfrol Henry Rowlands, Mona Antiqua Restaurata yn ddylanwadol iawn. Efallai mai'r prif ddylanwad oedd Iolo Morganwg. Cyhoeddwyd nifer o lyfrau yn cynnwys deunydd Iolo ar ôl ei farwolaeth, er enghraifft Barddas (dwy gyfrol: 1862, 1874). Honnai'r awdur ei fod yn gasgliad o destunau hynafol beirdd ar athroniaeth dderwyddol y Cymry, er y credir bellach mai ffugiadau Iolo ei hun yw'r rhan fwyaf. Gelwir gradd uchaf aelodau Gorsedd y Beirdd yn "dderwyddon".

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Hanes Naturiol XVI.249, dyfynnwyd gan Gwyn Thomas yn Duwiau'r Celtiaid (Gwasg Carreg Gwalch, 1992).
  2. Ifor Williams (gol.), Armes Prydain.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Aldhouse-Green, Miranda J., Exploring the World of the Druids (Llundain: Thames and Hudson, 1997)
  • Chadwick, Nora K., The Druids (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1966)
  • Fitzpatrick, A. P., Who were the Druids? (Llundain: Weidenfeld & Nicolson, 1997)
  • Hutton, Ronald, The Druids (Llundain: Hambledon Continuum, 2007)
  • Piggott, Stuart, The Druids (Llundain: Thames and Hudson, 1975)