Strabo

Oddi ar Wicipedia
Strabo
Ganwydc. 63 CC Edit this on Wikidata
Amasia Edit this on Wikidata
Bu farwc. 23 Edit this on Wikidata
Amasia Edit this on Wikidata
Galwedigaethdaearyddwr, hanesydd, athronydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGeographica Edit this on Wikidata

Daearyddwr Groegaidd oedd Strabo (c. 64 CC - c. 19 OC). Roedd yn enedigol o Amaseia, Pontus, yn Asia Leiaf, a flodeuai yn amser yr ymerawdwyr Cesar Awgwstws a Tiberiws

Ganwyd Strabo yn fab i rieni gweddol dda eu byd yn Amaseia, yn Pontus, hen dalaith Roeg yn Asia Leiaf a oedd erbyn hynny'n rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Astudiodd yn gyntaf dan diwtoriaeth yr athronydd crwydr (peripatetig) Xenarchus (fl. diwedd y 1af ganrif CC). Fel ei athro roedd yn arddel Stoïciaeth, athroniaeth y Stoïciaid. Ar ôl gorffen ei addysg ymroddodd i astudiaethau hanes a daearyddiaeth. Teithiodd yn eang gan ymweld â rhan helaeth o Asia Leiaf, yr Aifft hyd at gyffiniau Ethiopia, sawl ardal yng Ngwlad Groeg, a hefyd yr Eidal, gan gynnwys y brifddinas Rhufain. Gyda'i raglaenydd Ptolemi mae Strabo yn cael ei ystyried yn dad Daearyddiaeth. Ysgrifennodd sawl llyfr, gan gynnwys llyfr hanes pwysig mewn 47 llyfr, a oedd yn parhad o waith Polybius o'r 5fed llyfr ymlaen; darnau a dyfyniadau yn unig sydd wedi goroesi. Dim ond ei Γεωγραφικά (Geographica, "Daearyddiaeth") sydd wedi goroesi'n destun gweddol gyflawn. Yn ffodus y llyfr hwnnw yw ei gampwaith.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • F.W. Hall, A Companion to Classical Texts (Rhydychen, 1913)
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities, gyda ychwanegiadau gan H. Nettleship a J.E. Sandys (Llundain, 1902)