Autun
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn departement Saône-et-Loire a regione Bourgogne yn Ffrainc yw Autun. Yn 1999 roedd y boblogaeth yn 16,419.
Saif Autun ar afon Arroux. Sefydlwyd hi gan yr ymerawdwr Rhufeinig Augustus dan yr enw Augustodonum. Symudwyd poblogaeth Bibracte yma. Mae nifer o weddillion adeiladau Rhufeinig i'w gweld yma. Ymhlith adeiladau nodedig y ddinas, mae Eglwys Gadeiriol Saint-Lazare, yn dyddio o'r 12fed ganrif.