Nennius

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cysylltir Nennius, neu Nemnivus (floreat efallai tua 800), a’r traethawd Lladin Historia Brittonum, sy’n ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes cynnar Cymru.

Tystiolaeth amdano[golygu]

Mae cryn dipyn o amheuaeth ai Nennius oedd awdur yr Historia Britonum. Mae un teulu o lawysgrifau o’r testun yma yn ei briodoli i "Nennius, gostyngedig was a gweinidog Crist, trwy ras Duw, disgybl Elvodugus". Credir mai Elfodd (weithiau Elfoddw) oedd Elvodugus; mae cyfeiriadau ato yn yr Annales Cambriae yn perswadio eglwys Cymru i newid eu dull o benderfynu dyddiad y Pasg i gydymffurfio a gweddill yr eglwys Gatholig. Roedd hyn yn 768, ac yn nes ymlaen cyfeirir at farw Elfodd yn 809. Gellir casglu felly fod y Nennius yma yn ei flodau tua’r flwyddyn 800.

Yn ôl David N. Dumville dim ond un teulu o lawysgrifau sy’n priodoli yr Historia Britonum i Nennius, ac mae’r rhain i gyd yn deillio o lawysgrif o’r 11eg ganrif, tra nad yw llawysgrifau sy’n deillio o ffynhonnell gynharach yn priodoli’r gwaith i Nennius.

Mae hefyd gofnod mewn llawysgrif Gymraeg o’r 9fed ganrif am ysgolhaig o’r enw Nennius a atebodd gyhuddiad ysgolhaig Sacsonaidd nad oedd gan y Brythoniaid ei gwyddor eu hunain trwy ddyfeisio gwyddor yn y fan a’r lle. Nid oes sicrwydd a yw hwn yr un person â Nennius, disgybl Elfodd.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • David N. Dumville, "Nennius and the Historia Brittonum", Studia Celtica, 10/11 (1975/6), 78-95
  • Nora K. Chadwick, "Early Culture and Learning in North Wales", Studies in the Early British Church (1958).
  • John Owen Jones (gol.), O Lygad y Ffynnon: cyfieithiadau o weithiau haneswyr boreuaf Cymru (Davies ac Evans, Y Bala, 1890)
  • John Morris (gol.), Nennius: British History, and The Welsh Annals (Phillimore, Llundain, 1980). Cyfres 'History from the Sources' (Lladin gwreiddiol a chyfieithiad Saesneg)

Cyfeiriadau[golygu]

Dolen allanol[golygu]