Vates

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am yr offeiriaid Celtaidd yw hon. Am y band Cymreig gweler Vates (band).

Vates, yn ôl y daearyddwr Groegaidd Strabo, oedd yr enw a roddid gan y Celtiaid hynafol ar aelodau o ddosbarth breintiedig o ddoethion neu offeiriaid a arbenigai mewn astudio Natur ac aberthu. Gyda'r bardii ("beirdd") a'r derwyddon roedd ganddynt statws arbennig yn y gymdeithas Geltaidd. Cyfeirir atynt hefyd yng ngwaith Ammianus Marcellinus.

Daw'r gair vates (sy'n ffurf Roeg ar air Celteg) o'r gair Celteg *wātis (cytras efallai yw'r gair Lladin vates "gweledydd, bardd"). Ei ystyr, mae'n debyg, yw "proffwyd ysbrydoledig". Mae'r gair sy'n gytras â'r gair Hen Norseg óðr "barddoniaeth". Fáith yw'r gair sy'n cyfateb i vates yn y Wyddeleg. Yn y Gymraeg, y gair agosaf yw gwawd (yn yr hen ystyr "cân").

Cyfeiria Gerallt Gymro at yr awenyddion Cymreig a honnai fedru rhagweld y dyfodol, ac mae'n bosibl hefyd fod y daroganwyr Cymraeg (neu frudwyr) yn parhad canoloesol, i ryw raddau, o ddosbarth y vates Celtaidd hynafol.

Darllen pellach[golygu]

  • J. E. Caerwyn Williams, Bardus Gallice Cantor Appelatur..., yn Beirdd a Thywysogion (Caerdydd, 1996)