Iolo Morganwg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Iolo Morganwg
Iolo Morganwg.jpg
Ganwyd Edward Williams
10 Mawrth, 1747
Pennon, Bro Morgannwg
Bu farw 18 Rhagfyr, 1826
Trefflemin, Bro Morgannwg
Cenedligrwydd Cymro
Yn enwog am Sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain
Galwedigaeth Hynafiaethydd, bardd, saer maen, ffugiwr llenyddol
Plant Taliesin Williams

Roedd Edward Williams (10 Mawrth 1747 - 18 Rhagfyr 1826), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Iolo Morganwg, yn fardd a hynafiaethydd a aned ym mhentref bychan Pennon, plwyf Llancarfan, ym Morgannwg, de Cymru. Fe sy'n gyfrifol am y rhan helaeth o seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol, ac fe hefyd a sefydlodd Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Dim ond yn yr 20fed ganrif y sylweddolwyd ei fod yn un o'r ffugwyr llenyddol mwyaf cynhyrchiol a llwyddianus erioed.

Bywgraffiad[golygu]

Ganwyd Edward Williams, ym 1747, ym mhentre Pennon ym mhlwyf Llancarfan ond symudodd ei rieni i fyw ym mhentref Trefflemin, rhai milltiroedd yn unig i ffwrdd, ar lan Afon Ddawan, ac yno y'i magwyd ac y bu'n byw am y rhan helaeth o'inoes. Gweithiodd trwy gydol ei oes fel saer maen, ym Morgannwg ac yn Lloegr, ond daeth yn enwog fel hynafiaethwr, bardd a radical. Yn Llundain roedd yn aelod ymroddgar o'r Gwyneddigion, cylch o lenorion gwladgarol a oedd yn cynnwys William Owen Pughe ac Owain Myvyr. Daeth i adnabod Robert Southey a dechreuodd alw ei hun yn "The Bard of Liberty". Fel rhai o lenorion mawr eraill yr oes roedd Iolo'n hoff iawn o opiwm ar ffurf laudanium.

Tra yng ngharchar Caerdydd dros fethdaliad, ganed ei fab a fedyddiodd yn Daliesin. Roedd Taliesin yn ddisgybl i'w dad a golygodd ran o'i waith ar ôl ei farwolaeth.

Pan fu farw Iolo yn 78 oed ar 18 Rhagfyr 1826, bu galar ar ei ôl gan lawer o feirdd Cymru ac eraill a'i edmygai. Cyfansoddodd Walter Davies (Gwallter Mechain) 'gywydd-gofiant' iddo sy'n clodfori ei ddysg a'i ddawn ac sy'n cloi gyda'r llinellau hyn:

Tra bo ton yn afon Nedd
A Dawon i'r un duedd,
Taf a Chynon afonydd
Yn gyr[r]u'u dwfr i Gaer Dydd,
Bydd ym mhob glyn, bryn a bro
Miloedd yn sôn am Iolo.[1]

Gwaith llenyddol[golygu]

Iolo oedd un o olygyddion tair cyfrol y Myvyrian Archaiology (1801-1807).

Cyfansoddodd Iolo nifer o gerddi. Yn eu plith mae'r cywyddau a dadogodd ar feirdd o'r Oesoedd Canol, rhai ohonynt yn feirdd hanesyddol, fel Dafydd ap Gwilym, ac eraill yn greaduriaid o ben a phastwn Iolo ei hun. Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o'r cywyddau dan y teitl Poems Lyric and Pastoral yn 1794. Er i ddilysrwydd y cerddi hyn gael ei amau ac yna ei gwrthbrofi gan ysgolheigion yr 20fed ganrif, maent yn cael eu cydnabod fel cerddi gwych ynddynt eu hunain erbyn heddiw. Cyfansoddodd nifer fawr o emynau ar gyfer yr Undodiaid Cymraeg a gyhoeddwyd yn 1812. Ysgrifennodd nifer o gerddi rhydd swynol yn ogystal.

Wedi ei farwolaeth cyhoeddwyd Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain yn 1829 ac yn 1848 gwelodd ei gasgliad mawr o farddoniaeth a rhyddiaith hanesyddol, ffug a dilys, olau dydd yn y gyfrol yr Iolo Manuscripts (The Welsh Manuscripts Society, 1848). Yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif cyhoeddwyd rhai o'i ffugweithiau eraill, yn cynnwys Coelbren y Beirdd (1840), Dosparth Edeyrn Dafod Aur (The Welsh Manuscripts Society, 1856) a Barddas (The Welsh Manuscripts Society: 1862, 1874).

Mae'r rhan fwyaf o lawysgrifau a llyfrau Iolo yn cael eu diogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ers 1916.

Dylanwad[golygu]

Yn ystod y can mlynedd ar ôl ei farwolaeth yn 1826, daeth enw Iolo Morgannwg yn destun llosg yng Nghymru, wrth i ysgolheigion cyfoes ddatguddio faint o "ddarganfyddiadau" Iolo oedd, mewn gwirionedd, yn ffrwyth dychymyg Iolo ei hun. Ond erbyn heddiw, er bod pawb yn derbyn mai ffugio a wnaeth, mae defodau a seremonïau Iolo wedi ennill eu plwyf ym mywyd diwylliannol Cymru, ac mae Iolo ei hun wedi dod yn arwr i'r Cymry.

Llyfryddiaeth[golygu]

Argraffiad ffacsimili 1888 o'r Iolo Manuscripts (Isaac Foulkes, 1888).
Gweithiau Iolo (detholiad)
Astudiaethau
  • Cathryn A. Charnell-White, Bardic Circles[:] National, Regional and Personal Identity in the Bardic Vision of Iolo Morganwg (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2067-9
  • Mary-Ann Constantine, The Truth against the World[:] Iolo Morganwg and Romantic Forgery (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2062-4
  • Geraint H. Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius[:] The Many Faces of Iolo Morganwg (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2005). ISBN 978-0-7083-1971-0
  • Geraint H. Jenkins et al. (gol.), The Correspondence of Iolo Morganwg, mewn 3 cyfrol (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2131-7
  • Marion Löffler, The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg 1826-1926 (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2113-3
  • Prys Morgan, Iolo Morganwg (cyfres Writers of Wales, 1975)
  • Brinley Richards, Golwg Newydd ar Iolo Morgannwg (1979)
  • T.D. Thomas, Cofiant (1857)
  • Elijah Waring, Recollections and Anecdotes of Edward Williams (1850)
  • G.J. Williams, Iolo Morgannwg (Caerdydd, 1956)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwallter Davies, 'Cywydd-gofiant Iolo Morganwg', D Silvan Evans (gol.), Gwaith Gwallter Mechain, cyfrol 1 (Caerfyrddin, 1868). Tud. 61.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: