William Owen Pughe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
William Owen Pughe

Gramadegydd, geiriadurwr a golygydd Cymreig oedd y Dr William Owen Pughe (7 Awst 17593 Mehefin 1835). Ei enw barddol oedd 'Idrison' (defnyddiai 'Gwilym o Feirion' weithiau yn ogystal). Roedd yn aelod gweithgar o gymdeithasau llenyddol Llundain. Fel gramadegydd a geiriadurwr datblygodd ddamcaniaethau ieithyddol rhyfedd ac orgraff newydd i'r iaith Gymraeg.

Bywgraffiad[golygu]

Ganed Owen Pughe yn Nhy'n-y-bryn ym mhlwyf Llanfihangel y Pennant, Sir Feirionnydd. Symudodd ei deulu i fyw i dyddyn yn Ardudwy pan fu tua saith oed. Symudodd y dyn ifanc i fyw yn Llundain yn 1776 lle daeth i adnabod Owain Myfyr. Ymunodd â Chymdeithas y Gwyneddigion yn 1782 a daeth yn ddylanwad mawr ym mywyd llenyddol Cymry Llundain. Yn ystod y blynyddoedd hyn ennillai ei fywoliaeth yn gyntaf fel clerc mewn swyddfa cyfreithiwr ac yna fel ysgolfeistr a thiwtor preifat i blant cyfoethogion yn Llundain. Yn 1790 priododd Sarah Elizabeth Harper a chafodd fab (Aneurin Owen) a dwy ferch ganddi. Ei enw bedydd oedd William Owen, ond mabywsiadodd y cyfenw ychwanegol Pughe ar ôl etifeddu tir ger Nantglyn yn Sir Ddinbych yn 1806 gan berthynas pell o'r enw Rice Pughe. Yn dilyn hyn yr oedd ganddo incwm preifat a'i galluogodd i roddi ei holl amser i weithgarwch llenyddol ac ysgolheigaidd. Fodd bynnag parhaodd i fyw yn Llundain hyd 1825 (er i'w wraig farw yn 1815) pryd y dychwelodd i Gymru. Aeth ei iechyd yn fregus a bu farw mewn bwthyn yn perthyn i gyfaill, ger Llyn Mwyngil, Meirionnydd, y 3ydd o Fehefin, 1835.

Roedd yn troi yn yr un cylch â rhai o ffigyrau llenyddol mwyaf ei oes, yn cynnwys Owain Myfyr, Iolo Morganwg a Jac Glan-y-gors. Roedd yn ddyn caredig ond hygoelus. Daeth dan ddylanwad y "broffwydoles" o Ddyfnaint Joanna Southcott (c.1750-1814) yn 1803 a bu'n fath o ffactotwm iddi hyd ei marwolaeth yn 1814. Cafodd ei ethol yn aelod o'r Gymdeithas Hynafiaethol a rhoddodd Prifysgol Rhydychen y teitl o D.C.L. iddo yn 1824.

Gwaith ieithyddol a golygyddol[golygu]

Golygodd sawl cyfrol, ar ei ben ei hun neu fel cyd-olygydd, yn cynnwys Barddoniaeth Dafydd ap Gwilym (1789) a'r llyfr hynod ddylanwadol The Myvyrian Archaiology of Wales (tair cyfrol, 1801-1807). Am gyfnod bu'n olygydd The Cambrian Register.

Cyhoeddodd The Heroic Elegies of Llywarch Hen (1792-1794) a bywgraffiadur Cymreig (1803). Ei waith mwyaf uchelgeisiol oedd ei Geiriadur Cymraeg-Saesneg, ffrwyth ei gred ei fod yn bosibl creu toreth o eiriau "Cymraeg" trwy ddefnyddio'r gwreiddiau tybiedig y canfuasai yn ei ymchwil i darddiad yr iaith.

Cyfansoddodd sawl darn o farddoniaeth, yn cynnwys fersiwn o Paradise Lost John Milton, ond mynnodd ei gyhoeddi yn ei orgraff ryfedd ac maent bron yn annarllenadwy.

Llyfryddiaeth[golygu]

Gwaith yr awdur[golygu]

  • (gol.), Barddoniaeth Dafydd ap Gwilym (1789)
  • (gol.), The Heroic Elegies of Llywarch Hen (1792-94)
  • (gol.), The Myvyrian Archaiology of Wales (1801-07)
  • The Cambrian Biography (1803)
  • A Grammar of the Welsh Language (1803)
  • Geiriadur Cymraeg-Saesneg (1803)
  • Cadwedigaeth yr Iaith Gymraeg (1808)
  • Coll Gwynfa (1819). Cyfieithiad o Paradise Lost.

Bywgraffiadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]