Dafydd ap Gwilym

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dafydd ap Gwilym
Dafydd ap Gwilym at Cardiff City Hall.jpg
Cerflun o'r bardd yn Neuadd Dinas Caerdydd
Ganwyd Dafydd ap Gwilym Gam ap Gwilym ab Einion
Tua 1320
Ceredigion
Bu farw Tua'r 1380 (efallai)
Man claddu Abaty Ystrad Fflur
Cenedligrwydd Cymro
Yn enwog am Canu serch, arloesi'r cywydd
Galwedigaeth Bardd

Un o feirdd enwocaf Cymru a ystyrir yn feistr mawr y cywydd a'r canu serch oedd Dafydd ap Gwilym (tua 1320 - tua 1380). Fe'i gydnabyddir fel un o feirdd pwysicaf Ewrop gyfan yn ei gyfnod. Roedd yn canu yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr; credir iddo gael ei eni rhywbryd rhwng 1320 - a 1330 ym mhlwyf Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth. Meistrolodd y mesur caeth newydd a ddaeth i fri yn y cyfnod hwn sef y cywydd. Credir iddo farw tua 1380 ac iddo gael ei gladdu yn Abaty Ystrad Fflur.

Hanes[golygu]

Roedd Dafydd o dras uchelwrol. Ei dad oedd Gwilym Gam ap Gwilym ab Einion: ni wyddom ddim amdano, heblaw am y ffaith i'w ewythr, Llywelyn ap Gwilym ab Einion, fod yn gwnstabl yng Nghastell Newydd Emlyn. Bu ei ewythr Eynon, yn swyddog pwysig a thirfeddianwr yng Nghemais yng ngogledd Sir Benfro a chododd fyddin i'r goron Seisnig.[1]


Ei gerddi[golygu]

Prif destunau ei gerddi oedd natur a serch, a fuasai'n bynciau dieithr i farddoniaeth Gymraeg cyn hynny. Un o'i brif themâu yw'r hyn sy'n rhwystro ei garwriaeth; afon, ffenestr, person arall neu hyd yn oed frân yn crawcian uwch ei ben. Y rhwystr mwyaf oll, yn aml, yw anwadalrwydd ei gariad.

Marwnadau i Ddafydd gan y beirdd[golygu]

Mae sawl marwnad i Ddafydd ap Gwilym gan ei gyfoeswyr ar glawr. Canodd Iolo Goch farwnad i Ddafydd.

Llyfryddiaeth[golygu]

Testunau[golygu]

  • Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, 1952). Y casgliad safonol o'i waith. Adargraffiad diweddaraf (2013) 1996: ISBN 9780708313565
  • Alan Llwyd (gol.), 50 o Gywyddau Dafydd ap Gwilym (Barddas, 1980). Gyda chyflwyniadau a nodiadau.
  • Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol/Medieval Welsh Erotic Poetry (Caerdydd, 1991). Cyfrol sy'n cynnwys testun 'Cywydd y Gal'.

Ffynonellau[golygu]

  1. [A House of Leaves. Selected poems of Dafydd Ap Gwilym David Rowe. Gweithdy'r Gair 1995]

Astudiaethau[golygu]

Ceir nifer o lyfrau ac erthyglau mewn sawl iaith ar waith Dafydd ap Gwilym. Detholiad yn unig a roddir yma.

  • Rachel Bromwich, Aspects of the poetry of Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, 1986)
  • R. Geraint Gruffydd, Dafydd ap Gwilym (Cyfres Llên y Llenor, 1987)
  • Helen Fulton, Dafydd ap Gwilym and the European Context (Caerdydd, 1989)
  • John Rowlands, Dafydd ap Gwilym a Chanu Serch yr Oesau Canol (Caerdydd, 1975)

Gweler hefyd[golygu]

Dolen allanol[golygu]

Gwefan sy'n cynnwys casgliad o'i gerddi


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.