Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon (bl. ail hanner y 14eg ganrif.

Ychydig a wyddom am y bardd ond cedwir ei ach mewn llawysgrif achyddol gan Gruffudd Hiraethog. Yn ôl yr ach honno, sy'n anghyflawn, roedd yn perthyn i deulu o feirdd yng nghwmwd Talybolion, gogledd-orllewin Môn, teulu a gynhwysai Dafydd Benfras, un o feirdd mawr Oes y Tywysogion a ganodd i Llywelyn Ein Llyw Olaf. Roedd hefyd yn gefnder i'r bardd Gruffudd ap Maredudd.

Dim ond un gerdd o waith Llywelyn sydd ar glawr, sef awdl gyffes y bardd. Priodolir cerdd arall i fardd o'r enw Llywelyn Fychan o'r un cyfnod ond ymddengys mai bardd arall yw'r Llywelyn hwnnw.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon', yn Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007).