Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan (bl. canol y 14eg ganrif). Ceir cryn ansicrwydd am awduraeth yr unig gerdd sydd ar glawr a briodolir iddo ac mae ymgeiswyr eraill am ei hawduraeth yn cynnwys Gruffudd Llwyd ap Dafydd ap Einion Llygliw.

Cofnodir gŵr o'r enw Llywelyn Gaplan yn byw yn ardal Glyn Aeron neu Anhuniog, Ceredigion, yn 1326 ac mae'n bosibl mai ef oedd tad y bardd.

Gwrthrych y cywydd gan Gruffudd Llwyd yw uchelwr o'r enw Rhys. Mae rhai ysgolheigion wedi ceisio ei uniaethu â Rhys Gethin, uchelwr o Nant Conwy ac un o gapteiniaid Owain Glyndŵr, ond tueddir erbyn hyn i dderbyn yr awgrym mai Syr Rhys Ieuanc, mab Syr Rhys ap Gruffudd (c.1283-1356), a fu farw yn 1380.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Gruffudd (?Llwyd ap Llywelyn Gaplan)', yn Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007).