Anhuniog

Oddi ar Wicipedia
Anhuniog
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolUwch Aeron Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaMefenydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.23826°N 4.20547°W Edit this on Wikidata
Map

Cwmwd canoloesol yng nghanolbarth Teyrnas Ceredigion oedd Anhuniog (hen sillafiad: Anhuniawg[1]). Gyda Mefenydd a Pennardd roedd yn un o dri chwmwd cantref Uwch Aeron.

Cwmwd bychan oedd Mefenydd, yn gorwedd ar lan Bae Ceredigion yng nghanolbarth Ceredigion. Fffiniai â chwmwd Mefenydd i'r gogledd, Pennardd i'r dwyrain, a chymydau Caerwedros a Mebwynion, yng nghantref Is Aeron, i'r de.

Mae Afon Aeron yn llifo trwy dde'r cwmwd: yma, yn rhan isaf Ystrad Aeron, roedd y tir ffrwythlonaf i'w cael. Roedd ei brif ganolfannau yn cynnwys Castell Dinerth, Llanrhystud, ac Aberaeron.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan gutorglyn.net Archifwyd 2017-10-01 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 22 Mawrth 2018.