Madog Benfras

Oddi ar Wicipedia
Madog Benfras
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1340 Edit this on Wikidata

Bardd serch oedd Madog Benfras (bl. canol y 14g). Roedd yn un o arloeswyr y cywydd ac yn gyfaill i Ddafydd ap Gwilym.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd yn frodor o'r Maelor Gymraeg yng ngogledd-ddwyrain Cymru lle roedd ei frawd yn berson Marchwiail ger Eutun (Bwrdeistref Sirol Wrecsam heddiw). Yng nghyfnod y bardd roedd Maelor Gymraeg a Maelor Saesneg yn rhan o arglwyddiaeth Brwmffild a Iâl. Roedd Madog yn un o ddisgynyddion Madog ap Llywelyn (m. 1331), uchelwr mawr yn yr ardal ac un o ddisgynyddion tywysogion Powys Fadog. Yn ogystal â dal tir yn y Maelor Gymraeg mae'n bosibl y bu ganddo dir yn ardal Brogyntyn, Swydd Amwythig hefyd.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod]

Cedwir saith cywydd y gellir eu derbyn yn ddiogel fel gwaith Madog. Cerddi serch ydynt i gyd o ran eu prif thema; yr unig eithriad yw ei gywydd marwnad i'w gyfaill Dafydd ap Gwilym, ond canmol bardd serch ac amddiffyn y canu hwnnw yw prif nodwedd y gerdd honno.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Madog Benfras', yn Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007). Y golygiad safonol o waith y bardd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Madog Benfras'.