Madog ap Llywelyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Prif arweinydd gwrthryfel Cymreig 1294-95, a elwir weithiau 'Gwrthryfel Madog', oedd Madog ap Llywelyn (fl. 1277 - 1312). Gyda Cynan ap Maredudd yn y Canolbarth a Maelgwn ap Rhys y De, llwyddodd am gyfnod i ryddhau rhannau o Gymru o afael y Saeson fel arweinydd gwrthryfel cenedlaethol a ymladdwyd ar draws Gymru.

Bywgraffiad[golygu]

Roedd Madog ap Llywelyn yn aelod o deulu brenhinol Gwynedd. Bu'n wrthwynebus i bolisïau Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, cyn y goncwest. Mabwysiadodd y teitl Tywysog Cymru mewn dogfen a elwir yn "Gytundeb Penmachno" ac arweiniodd y Cymry, oedd wedi'u digio gan drethi newydd a thelerau sarhaus Statud Rhuddlan (1284), mewn cyfres o ymosodiadau ar filwyr Edward I o Loegr.

Uchafbwynt y gwrthryfel oedd yr ymosodiad ar dref Caernarfon a'i chastell yn 1294. Bu Madog a'i ddilynwyr yn weithgar yn y Canolbarth, ym Môn ac yn y Berfeddwlad hefyd, yn arbennig yn arglwyddiaeth Dinbych. Cofnodir fod Madog wedi mabwysiadu'r teitl Tywysog Cymru tua'r adeg yma.[1]

Mewn ymateb daeth Edward I i ogledd Cymru, gan gyrraedd Castell Conwy ar Ŵyl San Steffan 1294, ond i gael ei hun dan warchae yno am ddeg diwrnod ym mis Ionawr. Adferodd y brenin ei awdurdod serch hynny ond parhaodd y gwrthryfel am gyfnod. Yna, pan oedd ef, Madog, a'i wŷr ar eu ffordd i lawr i Bowys yn 1295, cafodd ei drechu gan Iarll Warwig ym Mrwydr Maes Maidog.

Ildiodd Madog ar ddiwedd 1295. Ni wyddys beth ddigwyddodd iddo ar ôl hynny. Cymerodd y Saeson 74 o wystlon o Sir Gaernarfon a Meirionnydd i sicrhau heddwch ar ôl i'r gwrthryfel ddarfod ond nid yw enw Madog yn eu plith.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • J.G. Edwards, "The Battle of Maes Meidiog and the Welsh Campaign of 1294-95", yn The English Historical Review (cyf. xxxix, 1924)
  • John Griffiths, "The Revolt of Madog ap Llywelyn, 1294-5", yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (cyf. 16, 1955)
  • J.E. Morris, The Welsh Wars of Edward I (1901)

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. R. R. Davies, The Age of Conquest (Rhydychen, 1991), tud. 383.