Castell Caernarfon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tu mewn i'r castell
Hen ffotograff o tua 1890-1900

Castell sydd yng nghanol tref Caernarfon, Gwynedd ac ar lannau Afon Seiont ac Afon Menai yw Castell Caernarfon, safle strategol a phwysig iawn yn ystod goresgyniad y Normaniaid, y Sacsoniaid a'r Saeson. Fe'i codwyd gan Edward I, brenin Lloegr rhwng 1283 a 1330. Mae'n gastell consentrig wedi ei gynllunio gan James o St George, a'r muriau wedi cael eu cynlluno i edrych fel muriau amddiffynnol Caergystennin. Mae Castell Caernarfon yn gampwaith ymhlith cestyll gogledd Cymru ac, fel un o'r cestyll hynny, mae ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1986.

Yn y castell hwn y ganwyd Edward II, brenin Lloegr ym 1284, cyn i'r castell gael ei gwblhau. Cyn hynny roedd yma gaer Rhufeinig yn Segontium, tu allan i'r dref bresennol, a chastell Normanaidd yn ogystal.

Cynllun pensaerniol o Gastell Caernarfon.
A – Porth y Dŵr; B – Tŵr yr Eryr; C – Tŵr y Frenhines; D – Tŵr y Ffynnon; E – Ward Isaf; F – Y Neuadd Fawr; G – Ceginau; H – Tŵr Chamberlain; I – Tŵr y Brenin; J – Ward Uchaf; K – Y Tŵr Du; L – Tŵr yr Ŷd; M – Tŵr y Gogledd Ddwyrain; N – Tŵr y tanc dŵr; O – Porth y Frenhines. Glas: y rhannau a godwyd rhwng 1283–92, coch: rhwng 1295–1323.

Yng ngwrthryfel Cymreig 1294-1295 roedd y dref a'r castell dan reolaeth Madog ap Llywelyn am gyfnod. Yn ddiweddarach, llwyddodd Owain Glyndwr i gipio'r castell yn 1403 a 1404.

Yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr doedd yr adeiladau y tu mewn i'r castell ddim mewn cyflwr da iawn, am nad oedd y castell mor bwysig ag y bu yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Y cyfnod modern[golygu]

Ym 1911 arwisgwyd y Tywysog Edward, sef Edward VIII yno. Yn 1969 yn ogystal, arwisgwyd Charles, mab hynaf brenhines Lloegr, yn Dywysog Cymru) yn y castell.

Mae Amgueddfa Catrawd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i'w weld mewn rhan o'r castell.

Oriel[golygu]