Statud Rhuddlan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Undebau personol a deddfwriaethol
gwledydd y Deyrnas Unedig
Datganoli
Sofraniaeth

Gweithredwyd Statud Rhuddlan neu Statud Cymru ar 3 Mawrth 1284 ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru — a sefydlwyd yn ffurfiol gan Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru a Gwynedd ac a ddalwyd am gyfnod byr ar ôl ei farwolaeth gan ei frawd Dafydd ap Gruffudd, Tywysog Cymru — yn ystod 1282-83 gan y brenin Edward I o Loegr. Cafodd ei gyhoeddi gan Edward I yn ei gastell yn Rhuddlan, gogledd Cymru. Dan y Statud, meddianwyd tiriogaeth y Dywysogaeth Gymreig annibynnol gan Goron Lloegr. Yn ogystal a theyrnas Gwynedd ei hun, cnewyllyn y Dywysogaeth, hawlwyd rhannau o Bowys - ac eithrio Powys Wenwynwyn (a ildwyd yn 1283 gan Owen de la Pole, fe ymddengys) - a thiriogaethau eraill yn y canolbarth a'r de-orllewin, sef y rhannau o Ddeheubarth a fu dan reolaeth Llywelyn. Doedd y tiriogaethau hyn ddim yn cynnwys y rhannau o Gymru a reolid gan Arglwyddi'r Mers; cyfran sylweddol o'r wlad yn ymestyn o Sir Benfro trwy dde Cymru i ardal y Gororau.[1]

Cadwyd yr enw Tywysogaeth Cymru am yr ardaloedd dan reolaeth Coron Lloegr ond yr oedd yn llai na thiriogaeth y Dywysogaeth annibynnol. Llywodraethid y dywysogaeth hon yn uniongyrchol gan Goron Lloegr, trwy'r rhwydwaith o gestyll a bwrdeistrefi Seisnig a sefydlwyd ynddi, fel uned ar wahân o fewn Cymru.

Creu siroedd newydd[golygu]

Cofnod o Statud Rhuddlan ar fur adeilad yn Rhuddlan 2014.

Rhannodd Statud Rhuddlan y Dywysogaeth yn siroedd newydd, a grewyd ar y patrwm sirol Seisnig. Rhanwyd Gwynedd Uwch Conwy, calon Teyrnas Gwynedd, yn dair sir - Sir Fôn, Sir Feirionnydd, a Sir Gaernarfon - a chreuwyd Sir y Fflint, yn Y Berfeddwlad (Gwynedd Is Conwy). Roedd y siroedd newydd hyn yn seiliedig i raddau helaeth ar yr hen gantrefi a chymydau Cymreig; cyfunwyd cantrefi Arfon, Arllechwedd, Eifionydd, a Llŷn, a chwmwd y Creuddyn, i ffurfio Sir Gaernarfon, er enghraifft. Sefydlwyd swydd Justiciar Gogledd Cymru i reoli siroedd Môn, Caernarfon a Meirionnydd gyda thrysorlys taleithiol yn nhref Caernarfon. Yn yr un modd, sefydlwyd swydd justiciar Gorllewin Cymru yn Sir Aberteifi a Sir Gaerfyrddin.[2] Ni sefydlwyd y siroedd eraill cyn 1536 a pharhaodd arglwyddiaethau'r Mers yn annibynnol ar Goron Lloegr tan hynny.

Statws cyfansoddiadol[golygu]

Dywedir yn aml fod Statud Rhuddlan wedi "ymgorffori" Cymru yn Nheyrnas Lloegr, ond nid yw hynny'n wir. Fel y dangosir uchod, dim ond rhan o Gymru - sef y rhan fwyaf o dywysogaeth y Tywysogion Cymreig annibynnol, neu Pura Wallie - a ddaeth i feddiant Edward I. Roedd trefn y siroedd newydd yn wahanol i'r hen siroedd Seisnig hefyd. Ni chynrychiolwyd y siroedd newydd yn Senedd Lloegr, yn wahanol i'r siroedd Seisnig, ac nid oedd cyfraith cyffredin Lloegr yn weithredol ynddynt chwaith. Yn wir, doedd y Dywysogaeth Cymru "Seisnig" ddim yn rhan o deyrnas Lloegr fel y cyfryw ond yn cyfrif fel tiriogaeth bersonol brenin Lloegr y tu allan i Loegr.[3] Meddianwyd y teitl "Tywysog Cymru" gan y Goron Seisnig hefyd, a sefydlwyd y drefn o gyhoeddi mab hynaf brenin Lloegr yn "Dywysog Cymru", trefn sy'n parhau hyd heddiw.

Cyfraith[golygu]

Un o'r newidiadau mwyaf pellgyrhaeddol dan y drefn newydd oedd cyflwyno Cyfraith Lloegr i ran sylweddol o Gymru. Caniataodd hyn i frenin Lloegr apwyntio swyddogion brenhinol yn y siroedd newydd, megis siryfoedd, crwneriaid, a beilïoed i gasglu trethu a gweinyddu'r gyfraith.

Er hynny, parhaodd Cyfraith Hywel mewn grym ymhlith y Cymry yn arglwyddiaethau'r Mers, ochr yn ochr â chyfraith y Mers, ac o fewn y siroedd newydd roedd hi'n cael ei harfer o hyd fel cyfraith y gymdeithas am rai materion.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. R. R. Davies, Conquest, Coexistence and Change: Wales 1063-1415 (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1987), pennod 14.
  2. Conquest, Coexistence and Change: Wales 1063-1415, pennod 14.
  3. A. H. Williams, An Introduction to the History of Wales, cyfrol II (Caerdydd), tud. 174.