Cytundeb Belffast
Oddi ar Wicipedia
Datblygiad gwleidyddol pwysig ym mhroses heddwch Gogledd Iwerddon oedd Cytundeb Belffast (a adwaenir yn fwy cyffredin fel Cytundeb Dydd Gwener y Groglith ac, yn llai aml, fel Cytundeb Stormont). Fe'i llofnodwyd ym Melffast ar 10 Ebrill 1998 (Dydd Gwener y Groglith) gan lywodraethau y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon, a chymeradwywyd ef gan y rhan fwyaf o bleidiau gwleidyddol Gogledd Iwerddon. Fe'i cymeradwywyd gan bleidleiswyr Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon mewn refferenda ar wahân ar 23 Mai 1998. Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd oedd yr unig blaid fawr a oedd yn gwrthwynebu'r Cytundeb.
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Dolenni allanol
- North-South Ministerial Council/An Chomhairle Aireachta Thuaidh/Theas
- Cytundeb Belffast (testun llawn, yn Saesneg)
- Comhaontú Bhéal Feirste (testun llawn, yn Wyddeleg)
- British-Irish Council