San Steffan
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am y fwrdeistref yw hon. Am adeilad y senedd gweler Palas San Steffan.
Y mae bwrdeistref ac ardal ganolog yn Llundain yn dwyn yr enw San Steffan (Saesneg: Westminster). Canolbwynt gwleidyddol y Deyrnas Unedig yw'r ardal fechan sydd wedi dwyn yr enw ers yr oesoedd canol. Yma y mae Senedd y Deyrnas Unedig yn cwrdd (ym Mhalas San Steffan), a'r Goruchaf Lys. Crëwyd y fwrdeistref fodern llawer ehangach, Dinas San Steffan, ym 1900.
Hen enw Saesneg yr ardal yw Thorney Island, o'r dyddiau pan oedd y tir yn gorsiog ac yn anaddas ar gyfer adeiladu. Cyfeiria'r enw modern Westminster at yr Abaty a'i lleolir yma, ond mae'r enw Cymraeg yn cyfeirio at addoldy sydd bellach wedi'i ddinistrio. Roedd capel y palas brenhinol gwreiddiol, a'i hadeiladwyd ar gyfer Harri III, wedi'i gysegru at Sant Steffan. Daeth y capel yma yn fan cyfarfod ar Dŷ'r Cyffredin, a dyna y bu nes i'r palas losgi i lawr ym 1834. Yn lle'r hen balas codwyd yr adeilad Fictoraidd adnabyddus, Palas San Steffan.
Cyferbyn â Phalas San Steffan, fe geir adeilad Abaty San Steffan, hen adeilad crefyddol sy'n dyddio'n ôl i'r ddeuddegfed ganrif a lle mae llawer o gyn-frenhinwyr a chyn-frenhinwyr Lloegr wedi eu claddu. Hefyd yn yr ardal mae pencadlys Yr Heddlu Metropolitan yn New Scotland Yard, Neuadd Ganolog y Methodistiaid a Chanolfan Cynhadledd Brenhines Elisabeth II.
Ar hyd Heol y Neuadd Wen (Whitehall) gerllaw ceir canolbwynt traddodiadol peirianwaith llywodraethu Lloegr a Phrydain - y gweinyddiaethau (yn cynnwys y Trysorlys) a Stryd Downing lle mae'r Prif Weinidog yn byw a gweithio. Saif y stryd yma ar safle hen balas brenhinol y Neuadd Wen, a losgodd ym 1698. Yr unig ran ohoni sydd bellach yn sefyll yw'r Tŷ Gwledda a'i cynlluniwyd gan Inigo Jones ym 1622.
I'r gogledd mae Sgwâr Trafalgar a Pharc Iago Sant (St James's Park), i'r gorllewin mae ardal gorsaf trenau Victoria a Palas Buckingham, i'r de mae Pimlico ac i'r dwyrain dros afon Tafwys mae Lambeth.