Tywysogaeth Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfau Llywelyn Fawr a ddaeth yn arfau Tywysogaeth Cymru drwy ei wyr, Llywelyn ap Gruffudd.

Tywysogaeth a grëwyd gan Llywelyn ap Gruffudd ac a gydnabuwyd yn ffurfiol gan Loegr drwy Gytundeb Trefaldwyn ym 1267 oedd Tywysogaeth Cymru. Roedd yn cynnwys, yn fras, gogledd-orllewin a gorllewin Cymru, sef Gwynedd Uwch Conwy, rhan helaeth o'r Berfeddwlad, Powys Fadog a Phowys Wenwynwyn, rhannau o'r diriogaeth a gipiwyd gan Lywelyn oddi ar arglwyddi'r Mers, a Deheubarth; nid oedd yn cynnwys amrywiol arglwyddiaethau'r Mers ei hun (yn fras, dwyrain a de Cymru).

Trwy Gytundeb Trefaldwyn, llwyddodd Llywelyn i gael gan y brenin gadarnhad o sylwedd yr hyn a enillasai drwy Gytundeb Pipton, cadarnhad y bu'n rhaid iddo dalu 25,000 marc (£16,666) amdano. Cydnabuwyd ei fod yn Dywysog Cymru a bod ganddo hawl i wrogaeth pob arglwydd Cymreig ac eithrio Maredudd ap Rhys o Ddryslwyn. (Prynodd yr hawl i wrogaeth hwnnw ym 1270.) Caniatawyd iddo feddiant ar Fuellt, Gwrtheyrnion a Brycheiniog a rhoddwyd iddo gyfle i brofi ei hawl i gadw eraill o arglwyddiaethau'r Mers. Roedd sicrhau Cytundeb Trefaldwyn yn orchest fawr oherwydd golygai gydnabod fod Llywelyn wedi creu hanfodion politi Cymreig.[1]

O safbwynt cyfansoddiadol, y peth pwysicaf a gyflawnwyd trwy Gytundeb Trefaldwyn oedd iddo, ar sail cydsynio rhwng brenin Lloegr a thywysog Cymru, gydnabod sefydliad a elwir yn Lladin y cytundeb yn principatus Wallie, ymadrodd a fynegir yn gyffredin yn Gymraeg bellach fel "Tywysogaeth Cymru". Bu i'r ymadrodd hwn ddau ystyr. Yn gyntaf golygai swydd neu safle swyddogol tywysog Cymru. Eithr yn fwy cyffredin golygai'r diriogaeth y gweithredai tywysog Cymru fel tywysog o'i mewn. Am dair canrif ar ôl 1267 nid oedd ond oddeutu hanner Cymru yn perthyn i'r diriogaeth honno. Yno dechreuwyd defnyddio'r gair "tywysogaeth" am Gymru gyfan, nes i'r ymadrodd syml "Y Dywysogaeth" ddod o'r diwedd yn ddull cydnabyddedig o gyfeirio at Gymru yn ei chyfanrwydd.[2]

Ar ôl goresgyniad Cymru gan Edward I o Loegr daeth i feddiant Coron Lloegr gyda Statud Rhuddlan (1284). Llywodraethid y dywysogaeth yn uniongyrchol gan Goron Lloegr, trwy'r rhwydwaith o gestyll a bwrdeistrefi Seisnig a sefydlwyd ynddi, fel uned ar wahân o fewn Cymru.

Daeth i ben fel uned weinyddol ym 1542 pan gyfunwyd tywysogaeth Cymru â Sir y Fflint a'r Mers, ond daliai rhai i gyfeirio at Gymru gyfan fel "Tywysogaeth Cymru" am beth amser, sy'n ddefnydd anghywir o'r term. Er bod etifedd y goron Brydeinig yn derbyn y teitl "Tywysog Cymru" yn draddodiadol heddiw, mae hynny heb unrhyw rôl gyfansoddiadol mewn llywodraethu Cymru. Er bod rhai pobl yn dal i gyfeirio at Gymru fel "Y Dywysogaeth", ni ddefnyddir yr enw hwn i gyfeirio at y wlad yn swyddogol heddiw, ond yn hytrach Cymru yn unig a ddefnyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth y DU. I nifer o Gymry heddiw mae defnyddio'r term i gyfeirio at Gymru yn cael ei ystyried yn ddatganiad gwleidyddol unoliaethol a/neu nawddoglyd am ei fod yn awgrymu fod Cymru yn rhanbarth llai na gwlad.

Llywelyn ap Gruffudd[golygu]

Cymru ar ôl Cytundeb Trefaldwyn 1267      Gwynedd, Tywysogaeth Llywelyn ap Gruffudd      Tiroedd concrwyd gan Lywelyn ap Gruffudd      Tiroedd deiliaid Llywelyn      Arglwyddiaethau'r Mers      Arglwyddiaethau brenin Lloegr

Roedd Llywelyn eisoes ym 1258 wedi cymryd arno'i hun deitl a safle tywysog Cymru, a hynny heb geisio sêl bendith brenin Lloegr; byth oddi ar hynny defnyddiasai'r teitl princeps Wallie hyd yn oed mewn dogfennau a oedd wedi eu cyfeirio at y brenin ei hun.[3] Ond fe wyddai Llywelyn o'r gorau y byddai'n rhaid yn y pen draw, am nifer o resymau ymarferol, i'r teitl a gymerasai arno'i hun gael ei gydnabod gan frenin Lloegr. Ac felly ym Mehefin 1265 roedd wedi dechrau mynnu cydnabyddiaeth gan y Saeson i'w safle fel Tywysog Cymru trwy wneud cytundeb â Simon de Montfort, arweinydd y barwniaid Seisnig gwrthryfelgar a oedd ar y pryd wedi codi arfau yn erbyn Harri III[nodiadau 1] Fe wnaeth Montfort y cytundeb hwnnw a elwir yn Gytundeb Pipton ar ôl y pentref ym Mrycheiniog lle'r arhosai Llywelyn yn ystod y trafodaethau yn enw'r brenin. Ond pan arwyddwyd ef ym Mehefin 1265 roedd y brenin mewn gwirionedd yn garcharor yn gafael Montfort, a gan nad oedd felly yn ŵr rhydd prin y gellid ystyried ei fod wedi ymrwymo'n gyfreithlon wrth y cytundeb a wnaed ar ei ran. A gan i Montfort ei hun gael ei orchfygu a'i ladd ym mrwydr Evesham yn Awst 1265 buasai Cytundeb Pipton farw marwolaeth ddyblyg cyn gynted bron ag y gwnaed ef. Ond am Gytundeb Trefaldwyn 1267, fe wnaed hwnnw pan oedd y brenin heb unrhyw amheuaeth yn rhydd i wneud fel y mynnai, a llywiwyd y trafodaethau gan neb llai na chennad y Pab, y Cardinal Ottobon. Dygai'r ddogfen a gynhwysai amodau terfynol y cytundeb nid yn unig sêl y brenin ond sêl cennad y Pab hefyd a sêl yr Arglwydd Edward, etifedd diymwad y brenin.[4] Am resymau cyfreithiol, geiriwyd y cytundeb i'r perwyl bod y brenin yn "rhoi" i Lywelyn dywysogaeth Cymru, ond y gwir amdani oedd bod y brenin yn "rhoi" teitl roedd Llywelyn eisoes wedi'i gymryd ac wedi'i arfer ers deng mlynedd bron. Felly ni wnâi'r brenin ddim mewn gwirionedd ond cydnabod fait accompli.[5]

Yn ôl diffiniad y cytundeb, roedd tywysogaeth Llywelyn i gynnwys rhyw ychydig mwy na hanner Cymru; yn fras, cynhwysai ogledd-orllewin Cymru a'r gogledd-ddwyrain a'r canolbarth, ond nid de-ddwyrain Cymru na'r de-orllewin na'r arfordir deheuol. Rhennid ei thiroedd yn diroedd roedd Llywelyn i fod yn arglwydd uniongyrchol arnynt ac yn diroedd roedd ef i fod yn ben-arglwydd drostynt. Am y tiroedd a oedd i fod o dan ei benarglwyddiaeth, tiroedd oedd y rheini a ddelid gan arglwyddi o Gymry a ddisgrifir yn y cytundeb fel 'barwniaid Cymreig Cymru'. O'r blaen ystyriasai brenhinoedd Lloegr mai fel prif ddeiliaid iddynt y daliai'r arglwyddi hyn eu tiroedd yng Nghymru, a'u bod felly i dalu gwrogaeth i frenin Lloegr a thyngu llw o ffyddlonder iddo. Ond drwy gytundeb 1267 cydsyniodd Harri III fod "holl farwniaid Cymreig Cymru" i ddal eu tiroedd fel prif ddeiliaid i dywysog Cymru, ac mai i'r tywysog felly dylent dalu gwrogaeth a thyngu llw o ffyddlonder. Golygai hyn mai tywysog Cymru o hyn allan a fyddai pennaeth ffiwdal cydnabyddedig "holl farwniaid Cymreig Cymru", ac y telid gwrogaeth a thyngu llw o ffyddlonder i frenin Lloegr ar ran tywysogaeth Cymru gan y tywysog ei hun yn unig, gyda golwg ar y tiroedd hynny yng Nghymru a oedd dan ei arglwyddiaeth uniongyrchol a'r rhai a oedd dan ei benarglwyddiaeth. Mewn gair, roedd tywysogaeth Cymru i ffurfio un endid ffiwdal.[6]

Darpariaeth bwysig arall yng nghytundeb 1267 oedd honno a bennai fod tywysogaeth Cymru wedi'i "rhoi" nid i Lywelyn yn unig, ond i Lywelyn "a'i etifeddion". Mewn geiriau eraill bwriadai Llywelyn nid yn unig i dywysogaeth Cymru fod yn endid ffiwdal, ond hefyd yn endid a drosglwyddid i'w ddisgynyddion uniongyrchol ef ac a fyddai drwy hynny yn llai tebygol o gael ei rhannu gan yr ymrafaelion teuluol a fuasai'n nodwedd mor gyffredin yng ngwleidyddiaeth tywysogion y canol oesoedd yng Nghymru.[7]

Y dywysogaeth ac Edward I[golygu]

Hyd yn oed cyn marwolaeth Llywelyn, ac mor gynnar â haf 1282 penderfynasai Edward I mai doeth fyddai rhoi i nifer o farwniaid Seisnig amlwg ddarnau helaeth o'r tiroedd Cymreig a fforffedwyd, er mwyn llunio ohonynt arglwyddiaethau newydd yn y Mers; y pwysicaf o'r rhain oedd arglwyddiaethau Dinbych, Rhuthun, Maelor ac Iâl, Y Waun, a Cheri a Chedewain, y cwbl yng ngogledd-ddwyrain Cymru.[nodiadau 2] Ond mae'n amlwg i Edward benderfynu y dylid, yn hytrach na gwahanu oddi wrth Goron Lloegr weddill y tiroedd Cymreig a fforffedwyd, eu troi yn waddol ar gyfer yr etifedd diymwad. Sicrhaodd y nod hwn trwy ddilyn cynsail cynharach. Ym 1254, pan oedd yn hogyn pymtheg oed, derbyniasai Edward ei hun fel etifedd diymwad ei dad waddol o diroedd oddi wrth Harri III a gynhwysai Swydd Gaer ynghyd â'r holl diroedd a ddaliai'r brenin ar y pryd yng Nghymru. Nodai amodau'r grant fod y tiroedd i'w rhoi i Edward ac i etifeddion ei gorff ar yr amod na chaent "fyth mo'u gwahanu oddi wrth y Goron, ond eu bod i barhau yn gyfan gwbl yn eiddo i frenhinoedd Lloegr am byth".[8] Ym 1301 fe roes Edward I i'w etifedd diymwad ei hun, Edward o Gaernarfon, a oedd ar y pryd yn llanc yn nesu at ei ddwy ar bymtheg oed, y cwbl o Swydd Gaer a "holl diroedd y brenin yng Ngogledd Cymru ... Gorllewin Cymru a De Cymru", i'w dal "gan y dywededig Edward a'i etifeddion sef brenhinoedd Lloegr".[9] Effaith y cyfyngu hwn ar grant 1301 i'r Edward ifanc "a'i etifeddion sef brenhinoedd Lloegr" oedd sicrhau na wahenid byth mo'r tiroedd a roddid oddi wrth Goron Lloegr, ac ailadrodd sylwedd yr amod arbennig a roed ar grant 1254 i'r Arglwydd Edward. Mae'n amlwg hefyd fod amodau grant 1301 yn pennu bod Edward o Gaernarfon i ddal ei diroedd "drwy estyn i'r brenin wasanaeth cyfryw ag y gwelir i'r brenin ei hun ei estyn i'w dad, y brenin Harri" - cyfeiriad penodol at y modd y daliai'r Arglwydd Edward o dan grant Harri III ym 1254.[10]

Statud Cymru 1284[golygu]

Aeth ugain mlynedd heibio rhwng dyfod tiroedd Llywelyn i ddwylo'r brenin a grant 1301 i Edward o Gaernarfon. Tra bu hen diroedd Llywelyn yng ngafael Edward I roedd e wedi aildrefnu'n helaeth y dull o'u llywodraethu. Corfforwyd y trefniadau newydd mewn deddfwriaeth fanwl a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 1284 ac a adwaenid wedyn fel 'Statud Cymru' (neu 'Statud Rhuddlan'). Gan fod i'r Statud hon le parhaol a phwysig yn hanes cyfansoddiadol Cymru, rhaid fydd crynhoi yma ei phrif nodweddion.[11]

Er gwaethaf ei henw nid oedd a wnelo Statud Cymru â Chymru gyfan; ymwnâi'n gyfan gwbl bron â'r hyn a elwid ynddi yn "diroedd y brenin yng Nghymru". Tiroedd oedd y rhain y daethai'r rhelyw ohonynt i ddwylo'r brenin o ganlyniad i gwymp Llywelyn ap Gruffudd: yng ngogledd-ddwyrain, gogledd-orllewin a de-orllewin Cymru. O dan lywodraeth frodorol Gymreig fe'u rhennid yn unedau gweinyddol sylfaenol a elwid yn "gymydau". Drwy gyfrwng Statud Cymru unodd Edward I y cymydau a oedd bellach yn eiddo iddo yng ngogledd Cymru i ffurfio unedau gweinyddol rhagorach a alwai ef yn "siroedd": Siroedd Môn, Caernarfon a Meirionnydd yn y gogledd-orllewin a Sir y Fflint yn y gogledd-ddwyrain. At bwrpas gweinyddiaeth gyfreithiol a chyllidol rhoddwyd Sir y Fflint dan awdurdod prif swyddog y sir nesaf, Swydd Gaer. Gelwid y swyddog hwnnw yn "brifustus Caer", ac yng Nghaer oedd ei bencadlys. At yr un pwrpas unwyd y tair sir newydd arall yn uned newydd a elwid yn "Eryri" neu "Ogledd Cymru", a theitl ei phrif swyddog oedd "prifustus Eryri" neu "brifustus Gogledd Cymru", gyda'i bencadlys yng Nghaernarfon. Yn ogystal â chreu'r siroedd newydd roedd Statud Cymru hefyd yn cydnabod bodolaeth dwy sir yn ne-orllewin Cymru: Sir Geredigion a Sir Gaerfyrddin. Roedd y siroedd hyn eisoes yn bodoli cyn llunio'r Statud, ac eisoes wedi eu ffurfio'n uned a elwid "Gorllewin Cymru", ac eisoes hefyd dan swyddog a elwid yn "brifustus Gorllewin Cymru" a'i bencadlys yng Nghaerfyrddin. Felly, mabwysiadu "Gorllewin Cymru" yn unig a wnaeth y Statud, ond bu'n rhaid iddi greu "Gogledd Cymru"; ond er bod adeiladwaith "Gorllewin Cymru" a Gogledd Cymru" yn gwahaniaethu oddi wrth ei gilydd mewn rhai manylion, mae'n amlwg fod hanfodion eu trefniadaeth gyfreithiol a gweinyddol yn debyg iawn.[12] Yn olaf roedd yn Statud 1284 nifer o gymalau a newidiai'r gyfraith a oedd i'w gweinyddu o hynny allan yn y tiroedd brenhinol a gynhwysid bellach yn yr unedau "Gogledd Cymru", "Gorllewin Cymru" a "Sir y Fflint". Ymhlith y rhain, y newidiadau pwysicaf oedd cyflwyno i'r unedau hyn nifer sylweddol o ddulliau gweithredu mwyaf nodweddiadol cyfraith gyffredin Lloegr, a dileu rhai, er nad y cwbl o bell ffordd, o hen ddulliau gweithredu'r gyfraith Gymreig frodorol.

Mae'n bwysig sylweddoli mai dim ond yn eu hadeiladwaith roedd siroedd Cymru Edward I yn debyg i siroedd Lloegr. Roedd ganddynt eu llys sirol, eu siryf a'u crwneriaid, ac fe'u rhannwyd yn hwndrydau, er nad oedd y rheini yn nhair sir Gogledd Cymru a Sir y Fflint mewn gwirionedd yn ddim ond hen gymydau Cymreig. Ond mewn un ffordd dra arwyddocaol roedd y siroedd Cymreig newydd yn wahanol i siroedd Lloegr. Un o nodweddion hanfodol dull siroedd Lloegr o weithredu oedd bod mwyafrif ohonynt wedi eu dwyn ynghyd gan dynfa ganolog gref y frenhiniaeth Seisnig i ffurfio system sirol gyda chysylltiad agos â sefydliadau brenhinol y llywodraeth ganolog yn San Steffan, y trysorlys, y siawnsri a llysoedd y gyfraith gyffredin (Llys Mainc y Brenin a Llys y Pledion Cyffredin). Yn Lloegr cyflwynai siryfion y siroedd eu cyfrifon i'r siecr yn San Steffan; yn Lloegr cychwynnid peirianwaith cyfreithiol y gyfraith gyffredin drwy gyfrwng gwritiau a gyhoeddid yn y siawnsri a nas ceid ond oddi yno; yn Lloegr gweinyddid y gyfraith ar ei lefel uchaf naill ai yn llysoedd y gyfraith gyffredin yn San Steffan neu gan farnwyr o'r llysoedd hynny a âi ar daith drwy'r siroedd fel barnwyr brawdlys. Yng Nghymru. Ar y llaw arall, nid oedd rhwng y siroedd a sefydlwyd ym 1284 a sefydliadau'r llywodraeth ganolog yn San Steffan gysylltiad o'r math hwn; ni thra-arglwyddiaethid ychwaith ar y siroedd Cymreig gan y sefydliadau hynny. Yng "Ngogledd Cymru", er enghraifft, nid i'r siecr yn San Steffan y cyflwynai'r siryfion eu cyfrifon ond yn hytrach i'r trysorlys lleol yng Nghaernarfon. Yng "Ngogledd Cymru" cychwynnid peirianwaith y gyfraith gan writiau a gyhoeddid nid yn y siawnsri yn San Steffan ond yn y siawnsri leol yng Nghaernarfon.[nodiadau 3] Yn yr un modd roedd "sesiynau ustusiaid Gogledd Cymru" yn cyflawni swyddogaeth llysoedd cyfraith gyffredin Mainc y Brenin a'r Pledion Cyffredin yn ogystal â swyddogaeth y llysoedd aseisus yn Lloegr. Er i Statud Cymru felly sefydlu siroedd yn y tiroedd Cymreig a ddaeth i ddwylo Edward I wedi cwymp Llywelyn a chyflwyno iddynt lawer o gyfraith gyffredin Lloegr fe gadwodd lywodraethu'r siroedd hynny a gweinyddu'r gyfraith gyffredin Seisnig ynddynt ar wahân i lywodraethu siroedd Lloegr. Trwy hynny fe sefydlodd Statud 1284 gynsail a barhaodd am amser maith yn hanes cyfansoddiadol Cymru.[13]

Edward o Gaernarfon[golygu]

Arfau'r tywysog Edward o Gaernarfon

Cafodd Edward, wrth dderbyn tiroedd y brenin yng Nghymru ym 1301, dywysogaeth Cymru hefyd, ac o ganlyniad y teitl tywysog Cymru - er na roddwyd na'r dywysogaeth nac ychwaith y teitl yn benodol, na hyd yn oed eu crybwyll yn y siarter. Mae'n amlwg i Edward o Gaernarfon ddod yn dywysog Cymru nid trwy "eiriau creu" penodol yn y siarter ond trwy estyn iddo'r amryw diroedd yng Nghymru roedd Llywelyn ap Gruffudd wedi eu dal, gydag ychydig eithriadau, yn dilyn cytundeb 1267.[14] Mae'n amlwg yr ystyrid y tiroedd a'r dywysogaeth yn bethau perthynol i'w gilydd o ganlyniad i'r ffaith fod Llywelyn yn dal y ddeubeth o dan gytundeb Trefaldwyn. Mewn geiriau eraill ystyrid bod tywysogaeth Cymru - y dywysogaeth a dderbyniodd Edward o Gaernarfon ym 1301 - fel sefydliad yn barhad o'r dywysogaeth a sefydlwyd gan Lywelyn ap Gruffudd yng nghytundeb 1267. Symbol o'r parhad oedd yr arwyddnodau a ddefnyddiwyd yn seremoni'r arwisgo, seremoni a gynhelid ar y pryd yn y senedd.[15] Pan arwisgwyd trydydd tywysog Cymru, Edward, y Tywysog Du, ym 1343, datganai'r siarter a'i creai'n dywysog iddo gael "ei arwisgo yn ôl y ddefod drwy osod coronig ar ei ben, modrwy aur ar ei fys a gwialen arian yn ei law".[16] Mae'n sicr fod y cyfeiriad at ddefnyddio'r arwyddnodau hyn "yn ôl y ddefod" yn awgrymu iddynt gael eu defnyddio cyn hynny gan Edward o Gaernarfon, ac yn awgrymu o bosib iddynt gael eu defnyddio hefyd gan Lywelyn ap Gruffudd. Gwyddys i sicrwydd fod coronig ymhlith yr arwyddlnodau a wisgid gan Lywelyn: cofnoda croniclwr San Steffan ddarfod dwyn "coronig aur" o eiddo Llywelyn o Gymru ymhlith ysbail rhyfel 1282-83 a'i chyflwyno mewn modd urddasol i gysegr Edward y Cyffeswr yn San Steffan gan yr etifedd diymwad ar y pryd, y mab hynaf a oedd yn fyw i'r brenin, sef Alphonso.[17][18]

Derbyniodd Edward o Gaernarfon rai tiroedd yr oedd ef i fod yn arglwydd uniongyrchol arnynt a thiroedd eraill roedd i fod yn ben-arglwydd drostynt. O'r tiroedd dan ei arglwyddiaeth uniongyrchol fel tywysog Cymru, buasai rhai, megis Môn, Gwynedd a Buellt, o dan arglwyddiaeth uniongyrchol Llywelyn; buasai eraill - rhan o Geredigion, er enghraifft, ac Ystrad Tywi - dan ei ben-arglwyddiaeth. Ond roedd rhai tiroedd a roed dan arglwyddiaeth uniongyrchol tywysog Cymru ym 1301 na fuont erioed yn rhan o dywysogaeth Llywelyn ond a fuasai'n eiddo i frenin Lloegr - cestyll ac arglwyddiaethau Caerfyrddin, Aberteifi a Threfaldwyn er enghraifft. Ar y llaw arall, roedd un ardal bwysig a fu o dan arglwyddiaeth uniongyrchol Llywelyn yn ôl cytundeb 1267 nas rhoddwyd i dywysog Cymru ym 1301, sef cantref Tegeingl, a drosglwyddasid ym 1284 i Sir y Fflint. Ni roddwyd Sir y Fflint i dywysog Cymru ym 1301 am i Edward o Gaernarfon ei derbyn y flwyddyn honno yn rhinwedd ei swydd arall fel Iarll Caer. Ceir mapiau hanesyddol yn dangos Sir y Fflint yn rhan o dywysogaeth Cymru yn y canol oesoedd ond mae hynny'n anghywir, oherwydd er pan sefydlwyd hi ym 1284 fe gydiwyd Sir y Fflint wrth Swydd Gaer, ac felly y bu gydol y canol oesoedd, y tu allan i dywysogaeth Cymru.[19] Mewn gair roedd y rhan fwyaf o'r tiroedd a oedd dan arglwyddiaeth uniongyrchol Edward o Gaernarfon wedi eu lleoli ym mhum sir "Gogledd" a "Gorllewin" Cymru.

Fel Iarll Caer derbyniodd Edward o Gaernarfon wrogaeth yn ogystal â llw o ffyddlonder oddi wrth ei denantiaid yn Swydd Gaer ac yn Sir y Fflint. Fel tywysog Cymru fe dderbyniodd wrogaeth a llw o ffyddlonder oddi wrth ei denantiaid ym mhum sir "Gogledd" â "Gorllewin" Cymru. Ond fel tywysog Cymru fe dderbyniodd hefyd wrogaeth a llw o ffyddlonder oddi wrth naw o arglwyddi'r Mers. Roedd pump o'r rheini yn arglwyddi ar arglwyddiaethau yn y Mers a enwir yn benodol mewn cofnod fel Mynwy (Henry o Gaerhirfryn), Rhuthun (Reginald Grey), Dinbych (Henry de Lacey, iarll Lincoln), Maelor ac Iâl (John de Warenne, iarll Surrey) a Cheri a Chedewain (Edmund Mortimer).[nodiadau 4] Arglwyddi ar diroedd nas enwir yn y cofnod oedd y pedwar arall, ond diau y gellir eu hadnabod fel yr arglwyddiaethau a ganlyn yn y Mers: Y Dref Wen (Fulk Fitz Warin), Cemaes (William Martin), Y Waun (Roger Mortimer) a Phowys (Gruffudd de la Pole).[20] Roedd saith o'r naw arglwyddiaeth hyn (y cwbl heblaw Mynwy a Chemaes) wedi eu llunio o diroedd y bu Llywelyn fel tywysog Cymru naill ai yn arglwydd uniongyrchol arnynt neu yn ben-arglwydd drostynt. Gellir cymryd yn ganiataol a priori na thalai tirddeiliaid ffiwdal mawr fel arglwyddi Mers Dinbych (iarll Lincoln) a Maelor (iarll Surrey) wrogaeth am eu harglwyddiaethau yn y Mers hyd yn oed i etifedd diymwad y brenin heb fod y brenin ei hun yn gwybod hynny ac yn cydsynio. Fe gofnodwyd i Henry de Lacey "dalu gwrogaeth a llw o ffyddlonder i'r tywysog am ei diroedd yn Rhos a Rhufoniog yng Nghymru ar orchymyn y brenin".[21] Nid unwaith yn unig y digwyddodd y math o wrhau a wnaeth arglwyddi'r Mers gogledd-ddwyrain Cymru ym 1301; gwnaeth eu holynwyr yr un peth i'r tywysog nesaf pan ddyrchafwyd hwnnw ym 1343, ac ailadroddwyd y peth ar amryw achlysuron wedi hynny. Golygai fod arglwyddiaethau newydd y Mers yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn cael eu hystyried yn gyfreithiol fel tiroedd "a ddelid yn uniongyrchol oddi ar dywysog Cymru fel rhan o'i dywysogaeth".[22]

Datblygiad confensiynau'r teitl[golygu]

Beddrod y Tywysog Du

Daeth Edward o Gaernarfon yn frenin ym 1307. Ni fu ganddo etifedd diymwad hyd 1312 pan aned ei fab Edward. Crëwyd y bachgen Edward yn iarll Caer ym 1312 pan nad oedd ond ychydig o ddyddiau oed, ond nis gwnaed yn dywysog Cymru o gwbl, a hynny o bosib oherwydd helyntion teyrnasiad ei dad. Daeth Edward III yn frenin yn ei dro ym 1327. Ni aned ei etifedd diymwad yntau, Edward, y Tywysog Du, hyd 1330. Crëwyd hwnnw yn iarll Caer ym 1333 ychydig cyn ei ben blwydd yn dair oed, ond nis gwnaed yn dywysog Cymru hyd 1343 pan oedd yn dair blwydd ar ddeg oed. Awgryma hyn fod rhyw fath o gonfensiwn ar y pryd na wneid etifedd diymwad yn dywysog Cymru hyd onid oedd yn ei arddegau: cofier bod Edward o Gaernarfon yn ddwy ar bymtheg oed bron iawn pan ddaeth yn dywysog Cymru. Bu'r Tywysog Du fyw tan fis Mehefin 1376; ef, trwy ddal y teitl tywysog Cymru am y cyfnod maith o dair blynedd ar ddeg ar hugain, a'i sefydlodd fel y teitl addas ar gyfer etifedd diymwad gorsedd Lloegr. Bu farw'r Tywysog Du flwyddyn bron o flaen ei dad, Edward III, a daeth ei fab Rhisiart o Bordeaux, yn etifedd diymwad. Gwnaed Rhisiart yn dywysog Cymru pan oedd yn naw mlwydd oed; nid oedd ef yn ei arddegau, ond roedd rhesymau arbennig dros roi'r teitl iddo ac yntau mor ifanc. Wedi marwolaeth y Tywysog Du roedd rhywfaint o amheuaeth yn Lloegr fod ei frawd, John o Gaunt, dug Caerhirfryn, yn bwriadu cipio'r orsedd pe bai farw Edward III. Digwyddai bod y senedd yn eistedd pan fu farw'r Tywysog Du; ychydig ddyddiau wedi'i farwolaeth fe ddeisyfodd Tŷ'r Cyffredin ar i Risiart, etifedd y Tywysog Du, gael ei ddwyn i'r senedd i'w gydnabod yn ffurfiol fel gwir etifedd diymwad yr orsedd. A gwnaed hynny. Yna fe ddeisyfodd Tŷ'r Cyffredin ar i'r brenin wneud Rhisiart yn dywysog Cymru, a maes o law, ond nid hyd fis Tachwedd 1376, fe wnaed hynny hefyd. Mae'n amlwg fod Tŷ'r Cyffredin ym 1376 am i Risiart gael ei wneud yn dywysog Cymru er mwyn gwneud yn gwbl glir mai ef oedd etifedd diymwad coron Lloegr. Daeth Rhisiart yn frenin ym mis Mehefin 1377, ond gan ei fod yn ddi-blant nid oedd ganddo etifedd diymwad y gellid ei wneud yn dywysog Cymru. Eithr pan ddiorseddwyd Rhisiart ym 1399 fe wnaed Harri Mynwy, mab ei olynydd, yn dywysog Cymru yn syth: a hynny, mae'n amlwg, er mwyn cadarnhau ei safle fel etifedd diymwad ac fel rhan o'r broses o sicrhau'r olyniaeth o fewn y teulu brenhinol Lancastraidd newydd.[23]

Gwrthryfel Glyndŵr[golygu]

Prif erthygl: Owain Glyndŵr

Ym mis Medi 1400, flwyddyn ar ôl i Harri IV feddiannu gorsedd Lloegr, dechreuodd ffrae rhwng Owain Glyndŵr a'i gymydog Reginald Grey, 3ydd Barwn Grey de Ruthyn, a ddatblygodd yn gyflym i fod yn wrthryfel dros annibyniaeth i Gymru. Ar 16 Medi, 1400, gweithredodd Owain, a chafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru gan ei gefnogwyr. Ar Ddydd Gŵyl Mathew (23 Medi 1400) llosgodd Glyndŵr dref Rhuthun yn llwyr, heblaw'r castell.

Ffurfiodd gynghrair strategol gyda gwrthwynebwyr mwyaf nerthol Harri. Carcharodd Edmund Mortimer, ewythr 5ed Iarll y Mers, a oedd yn hawlio gorsedd Lloegr, ym 1402. Am gyfnod roedd yn rheoli bron y cyfan o Gymru, ond ar ôl 1405 dechreuodd y gwrthryfel edwino'n raddol. Ceir y cofnod olaf am Owain ym 1412, ac nid oes unrhyw sicrwydd am ei hanes ar ôl hynny. Roedd Harri IV wedi marw ym 1413, a'i fab, y tywysog Harri Mynwy, wedi ei olynu ar yr orsedd fel Harri V.

Y dywysogaeth a'r Lancastriaid[golygu]

Humphrey, dug Caerloyw

Erbyn i'r tywysog nesaf, Edward o San Steffan, mab Harri VI, gael ei arwisgo ym Mawrth 1454[24] yn bum mis oed, roedd gweinyddiaeth y dywysogaeth wedi dirywio. Yno bu cwymp sylweddol mewn incwm, a gallai'r tywysog newydd ddisgwyl oddi wrthi lai na chwarter y £4,000 a dderbyniasai'r Tywysog Du. Bu'r crebachiad yn nosbarth y taeogion, prif ffynhonnell rhent a threth, yn ergyd drom i incwm y tywysog. Erbyn 1420 roedd y cwbl o drigolion taeogdrefi dwyrain Sir Gaernarfon a de Sir Feirionnydd wedi ffoi o'u cartrefi, ac ofer fu'r ymdrechion i'w gorfodi i "ail-anheddu eu tiroedd er budd y brenin". Cyfrifoldeb y llywodraeth ganol oedd y dywysogaeth, ond llinach di-weledigaeth oedd y Lancastriaid at ei gilydd o ran eu polisïau ynglŷn â'r dywysogaeth.[25] Ni pherthyn i bolisïau Cymreig Harri IV y pendantrwydd na'r haelioni achlysurol, a nodweddasai bolisi Edward I. Bu Harri V rywfaint yn fwy egnïol, ond gwaethygodd y sefyllfa wedi'i farwolaeth ym mis Awst 1422. Yn unol â'i ewyllys, cyflwynwyd teyrnas Lloegr i ofal y dug Humphrey, ei frawd. Roedd gan Humphrey gysylltiadau â Chymru ers 1414 pan roddwyd arglwyddiaeth Penfro iddo. Penodwyd ef yn ustus y gogledd ym 1427 ac yn ustus y de ym 1440 a ddangosodd ddiddordeb ysbeidiol yn y dywysogaeth gan feithrin yng Nghymru garfan i'w gefnogi, ond llipa oedd ei arweiniad.[25] Lledodd yr arfer o adbrynu'r sesiwn i siroedd deheuol y dywysogaeth; o'r 52 sesiwn a gofnodwyd yn Sir Gaerfyrddin rhwng 1422 a 1485, dim ond 11 a redodd eu cwrs. Daeth Harri VI i'w oed ym 1437, a chaniataodd i aelodau ei lys ddefnyddio swyddi'r dywysogaeth fel gwobrwyon i'w dilynwyr. Rhwng 1437 a 1440, rhoddwyd dros draean ohonynt i aelodau "teulu" y brenin, a hynny am eu hoes. Does ryfedd i drigolion y dywysogaeth ddatgan ym 1440 bod y siroedd Cymreig "dayly habundeth and increseth in misgovernaunce".[25]

Y Côd Penyd ac ymddyrchafiad yr uchelwyr Cymreig[golygu]

Ym 1402, yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, lluniodd y Senedd y Côd Penyd enwog a waharddai'r Cymry rhag ymgynnull, dal swyddi amlwg, dwyn arfau nac ymwneud â'r trefi caerog, a gosodwyd yr un gwaharddiadau ar Sais a briodai Gymraes.[26] Pylodd y chwerwedd hiliol a enynnwyd gan y gwrthryfel wrth i'r degawdau fynd yn eu blaenau, a lleihaodd y bwlch rhwng y Cymry a'r Saeson a ail-ledasai o ganlyniad iddo. Serch hynny, am ganrif a mwy eto rhoddwyd y mynegiant i diwn gron wrth-Gymreig bwrdeisiaid Gwynedd. Ym 1431, 1433 a 1447, mynnodd y Senedd gadarnhau'r Côd Penyd, ac ni symudwyd hwnnw o'r Llyfr Statud tan 1624.[27] Ond erbyn arwisgiad Edward o San Steffan, a chyda'r llywodraeth ganol ac arglwyddi'r Mers yn cefnu ar eu cyfrifoldebau, roedd gwacter awdurdod yng Nghymru wedi cael ei lenwi gan yr uchelwyr Cymreig. Yn ystod teyrnasiad Harri VI gosodwyd seiliau ystadau a fyddai'n ganolog yn hanes Cymru am hanner mileniwm; o'r ugain ystad y cofnodwyd ym 1883 eu bod dros wyth mil o hectarau, roedd cnewyllyn pymtheg ohonynt eisoes mewn bod ym 1450. Er bod y Côd Penyd ar y Llyfr Statud o hyd, roedd y mur rhwng Cymry a Saeson yn graddol chwalu yn haenau uchaf cymdeithas.[25][28]

Roedd hanes un o linachau Ŵyrion Eden, cyff Ednyfed Fychan, yn hynod. Tua 1420, aeth Owain ap Maredudd, ŵyr Tudur ap Goronwy o Fôn, a nai i Rys ap Gwilym, prif gynghreiriaid Owain Glyndŵr, i Lundain i wneud ei ffortiwn. Yno, tua 1431, priododd â Chatrin, gweddw Harri V, a hynny'n gyfrinachol. Mabwysiadodd Owain gyfenw, sef enw ei daid, Tudur. Roedd ei feibion, Edmwnd a Siasbar (y ddau yn hanner brodyr i Harri VI) ymhlith pleidwyr selocaf llinach Lancaster. Ym 1452, dyrchafwyd Edmwnd yn iarll Richmond ac fe briododd Margaret Beaufort, gorwyres John o Gaunt. Rhoddwyd iddo'r cyfrifoldeb o ailsefydlu'r awdurdod brenhinol yng ngorllewin Cymru. Bu farw yng Nghaerfyrddin ym 1456 a pharhawyd ei waith gan ei frawd Siasbar, iarll Pembroke. Erbyn 1460 roedd Siasbar wedi casglu cynifer o swyddi yng Nghymru fel ei fod i bob pwrpas yn llywodraethwr y wlad.[28][29]

Y dywysogaeth a'r Iorciaid[golygu]

Cipiodd Edward IV orsedd Lloegr ym 1461 ac fel canlyniad daeth William Herbert yn gyfrifol am Gymru. Yng nghofiant Charles Ross i Edward IV mae angen pymtheg llinell i restru'r cwbl o'r swyddi Cymreig a oedd ym meddiant Herbert. Roedd Edward IV yn fwy egnïol fel rheolwr na'i ragflaenydd, ac ymddengys i Herbert, â chefnogaeth y llywodraeth ganol, gael cryn lwyddiant yn ei ymdrechion i wneud Cymru gyfan yn atebol i'w awdurdod. Eiddigedd o awdurdod dilyffethair Herbert yng Nghymru oedd un rheswm pennaf iarll Warwick dros gefnu ar Edward IV ac ymgymryd â'r ymgyrch i ailorseddu Harri VI ym 1470-71. Warwick a fynnodd ddienyddio Herbert, gweithred a adawodd Edward, wedi iddo gael ei adfer ar ôl ennill brwydr Tewkesbury (lle lladdwyd Edward o San Steffan, tywysog Cymru) heb raglaw yng Nghymru.[30]

Sefydlu Cyngor y Tywysog[golygu]

Heb neb egnïol wrth y llyw, âi Cymru'n fwyfwy terfysglyd. Erbyn 1472, roedd deisebau seneddol gwŷr y gororau yn chwerw a chwynfannus. Ceisiodd y brenin lanw'r gwactod trwy sefydlu cyngor i'w aer, Edward, a arwisgwyd â'r dywysogaeth yn fuan wedi'i eni ym 1471. Ym 1473, ymgartrefodd y cyngor yn Llwydlo, pencadlys iarllaeth March, ac yn y flwyddyn honno cyfarfu Edward â'r hyn oedd yn weddill o arglwyddi'r Mers gan eu hatgoffa am eu cyfrifoldeb i gadw trefn o fewn eu tiriogaethau. Ni oroesodd cofnodion cyngor Edward ond ymddengys iddo weithredu'n bur effeithlon. Yr amlycaf o'i aelodau oedd perthnasau'r frenhines, llwyth lluosog Woodville. Defnyddiasant eu hawdurdod i danseilio dylanwad teulu Herbert yng Nghymru ac i greu plaid i'w cefnogi yn y Mers. Roedd y brodyr Thomas a William Stanley, y naill yn ustus Caer a'r llall yn stiward "teulu" tywysog Cymru, yn flaenllaw ymhlith cynghreiriaid teulu Woodville. Roedd pryder ynglŷn â grym Anthony Woodville, brawd y frenhines, yng Nghymru yn un o'r ystyriaethau a barodd i Risiart, brawd Edward IV, drawsfeddiannu'r goron oddi ar ei nai, Edward V, ym 1483, un wythnos ar ddeg wedi i Edward V, yn ddeuddeg oed, etifeddu'r goron.[30][31]

Y dywysogaeth a Rhisiart III[golygu]

Daeth y cyngor yn Llwydlo i ben pan etifeddodd tywysog Cymru deyrnas ei dad, a cheisiwyd llenwi'r bwlch trwy roi prif swyddi Cymru i Henry Stafford, dug Buckingham, arglwydd Brycheiniog ac etifedd hawliau mab ieuengaf Edward III.[31] Ar ôl i Risiart III gymryd y goron, arwisgwyd ei fab deng mlwydd oed Edward o Middleham fel tywysog Cymru ym mis Awst 1483.[32] Ym Medi 1483, cododd dug Buckingham faner gwrthryfel yn Aberhonddu, i bob golwg er mwyn hybu achos Harri Tudur. Nid enynnodd ei wrthryfel unrhyw frwdfrydedd yng Nghymru ac ymhen mis fe'i trechwyd ac fe'i dienyddwyd. Gyda dienyddiad Buckingham, diflannodd unrhyw gydlyniad a fuasai gan weinyddiad Cymru. Yn y gogledd y gŵr grymusaf oedd yr ustus, William Stanley, perchennog cadwyn o arglwyddiaethau, gwobrwyon teulu, a chwaraesai'r ffon ddwybig trwy gydol yr ymrysonau dynastig. Yn y de-orllewin, y dyn mawr oedd Rhys ap Thomas, a lynai'n reddfol wrth y Lancastriaeth a fu'n gyfrifol am ddyrchafiad ei deulu.[31] Bu farw'r tywysog Edward ym mis Mawrth neu fis Ebrill 1484,[33] yn gadael Rhisiart III heb etifedd diymwad.

Diffygion y drefn weinyddol yng Nghymru a alluogodd Harri Tudur a'i fyddin o bedair mil o Ffrancwyr i lanio'n ddi-wrthwynebiad nid nepell o Aberdaugleddau ac i ymdeithio'n ddi-rwystr drwy Gymru ym mis Awst 1485.[31]

Y dywysogaeth a'r Tuduriaid[golygu]

Dominiwn a Thywysogaeth Cymru a'i Mers[golygu]

Yn ei bolisïau Cymreig ni wnaeth Harri VII fawr mwy nag adeiladu ar waith yr Iorciaid. Ym 1489, pan oedd yn dair oed, dyrchafwyd Arthur Tudur, aer y brenin, yn dywysog Cymru. O fewn blwyddyn, roedd ei gyngor ar waith yn Llwydlo o dan arolygiaeth Siasbar Tudur. Bu farw Arthur ym 1502 ac arwisgwyd ei frawd Harri â'r dywysogaeth ym 1504. Ni ddiddymwyd y cyngor ar farwolaeth Arthur. Goroesodd fel Cyngor y Brenin yn Nominiwn a Thywysogaeth Cymru a'i Mers, a pharhâi ryw lun arno tan 1688 er na fyddai tywysog Cymru'n bod yn ystod y rhan fwyaf o'r cyfnod 1489-1688. Mynnodd Harri VII, fel y gwnaeth Edward IV, fod arglwyddi'r Mers yn ymrwymo trwy indeintur i gadw trefn o fewn eu tiriogaethau, a gwyddys i Siasbar, arglwydd Penfro a Morgannwg, arwyddo indeintur o'r fath. Siasbar, pensaer llwyddiant ei nai, a gafodd y prif swyddi yn y dywysogaeth a'r Mers. Bu farw Siasbar yn ddietifedd ym 1495 a daeth ei arglwyddiaethau i feddiant y goron. Yn yr un flwyddyn, achubodd y brenin ei gyfle i ddienyddio William Stanley fel bradwr ar sail tystiolaeth eithaf tila. Daeth ei arglwyddiaethau hefyd i feddiant y goron.

Ym 1496 penodwyd Rhys ap Thomas yn ustus y dywysogaeth yn y de a rheolodd ei diriogaethau o'i gastell yng Nghaeriw, y trydydd Cymro ers y ddau William Herbert i gael ei benodi i ustusiaeth yng Nghymru. Erbyn 1496 roedd y llifddorau wedi'u hagor ac âi'r rhan fwyaf o swyddi cyhoeddus Cymru i ddwylo brodorol. Codwyd ambell Gymro'n esgob, er mai gweision sifil o Saeson oedd mwyafrif y dynion a benodwyd gan Harri VII i esgobaethau Cymru. Ym 1496 dyrchafwyd Cymro i Dyddewi am y tro cyntaf ers 1389; cafwyd esgob Cymreig yn Llanelwy ym 1500 ond ni fyddai Cymro ym Mangor tan 1542 nac yn Llandaf tan 1566.

Roedd dydd arglwyddi'r Mers yn dirwyn i ben. Pan fu farw Harri VII ym 1509, yr unig arglwyddi grymus a oedd ar ôl yn y Mers oedd dug Buckingham ym Mrycheiniog a Chasnewydd, Charles Somerset yng Nghas-gwent, Crucywel, Rhaglan a Gŵyr, ac Edward Grey mewn rhan o Bowys. A chymaint o'r Mers yn nwylo'r brenin, ymdebygai'r arglwyddiaethau fwyfwy yn eu gweinyddiaeth i'r dywysogaeth. Diddymwyd iarllaeth March fel uned ar wahân ym 1489 a gweinyddwyd hi o hynny ymlaen o dan sêl fawr y brenin. Dyna gam o bwys yn y broses o uno'r dywysogaeth a'r Mers, proses a fyddai'n cael ei chwblhau yn neddfwriaeth 1536, yn ystod teyrnasiad Harri VIII.[34]

Y "Deddfau Uno" 1536 a 1543[golygu]

Roedd "tir Cymru" yn ei gyfanrwydd cyn pasio Mesur Chwefror 1536 yn cynnwys tair rhan: yn gyntaf, pum sir tywysogaeth Cymru; yn ail, Sir y Fflint, wedi'i chlymu'n weinyddol wrth Swydd Gaer; ac yn drydedd, y Mers, y rhan fwyaf o'i diriogaethau bellach yn nwylo'r goron. Fel rheol gelwid dwy o'r rhain, sef Morgannwg a Phenfro, yn "siroedd" ac roedd iddynt rai o nodweddion siroedd, felly roedd Mesur Chwefror 1536 yn eu trin fel pe baent yn siroedd yn union fel y siroedd eraill. Yn siroedd y dywysogaeth a Sir y Fflint y gyfraith Gymreig, yn gymysg â dogn helaeth o gyfraith gyffredin Lloegr a gawsai ei chyflwyno gan Statud Cymru 1284, a weinyddid. Yn y Mers y gyfraith a weinyddid oedd "arfer y Mers", sef cymysgedd a amrywiai o arglwyddiaeth i arglwyddiaeth o'r gyfraith Gymreig a'r gyfraith Seisnig. Gan fod "arfer y Mers" yn cael ei gweinyddu nid yn enw'r brenin ond yn enw arglwydd pob arglwyddiaeth unigol, ffurfiai arglwyddiaethau'r Mers unedau cyfreithiol a oedd tu allan i bob trefn gyfreithiol arall; roeddent felly yn gadwrfeydd ymrannu.[35]

Canlyniad mwyaf trawiadol "Deddf 1536" oedd i arglwyddiaethau'r Mers, a fuasai hyd hynny yn unedau hunan-gynhaliol heb fod yn ddarostyngedig i unrhyw sir, gael eu dwyn y tu mewn i ffiniau rhyw sir neu'i gilydd trwy eu cynnwys naill ai yn rhai o siroedd Lloegr ynteu yn rhai o siroedd Cymru. Gwnaed y newid mewn tair ffordd:

  • O 1 Tachwedd 1536 trosglwyddwyd ardaloedd penodol yn y Mers i un o'r tair sir Seisnig a ffiniai â nhw sef Amwythig, Henffordd a Chaerloyw.
  • O'r un dyddiad trosglwyddwyd ardaloedd penodol yn y Mers i un o'r pedair sir a fodolai eisoes yn ne Cymru sef Ceredigion, Caerfyrddin, Penfro a Morgannwg, ac ail-luniwyd y pedair sir o dan yr un enwau.
  • O'r un dyddiad unwyd ardaloedd penodol yng ngweddill y Mers i ffurfio pum sir ychwanegol, sef Mynwy, Brycheiniog, Maesyfed, Trefaldwyn a Dinbych.[36]

Ar ôl gosod holl arglwyddiaethau'r Mers mewn siroedd fel hyn aeth y Ddeddf rhagddi i ddarparu ar gyfer cyfraith a barn yn y siroedd Cymreig. O'r pum sir ychwanegol a grewyd fe driniwyd un yn wahanol i'r pedair arall. Y sir honno oedd Mynwy. Pennodd Deddf 1536 fod cyfraith a barn ym Mynwy i'w gweinyddu yn Llys Mainc y Brenin a Llys Pledion Cyffredin yn San Steffan ac yn llysoedd y barnwyr aseisus gylchdaith; fod peirianwaith cyfreithiol i'w gychwyn drwy gyhoeddi gwrit yn y siawnsri Seisnig yn San Steffan, a bod siryf Mynwy i gyflwyno ei gyfrifon i'r siecr Seisnig. Mewn gair fe gymathwyd gweinyddiad Sir Fynwy â gweinyddiad siroedd cyffredin Lloegr. Ond gyda'r siroedd Cymreig eraill bu pethau'n wahanol. Yn achos y rhain sefydlodd Deddfau 1536 a 1543 drefniadau llywodraeth a oedd mewn rhai ffyrdd arwyddocaol yn bur wahanol i'r trefniadau a weithredai yn Lloegr. Nodwedd ar y deuddeg sir oedd dau sefydliad a oedd yn arbennig i Gymru, sef "Cyngor Cymru a'r Gororau" a "Sesiwn Fawr y Brenin yng Nghymru".[37]

Yn ôl Deddf 1543 roedd Cyngor Cymru i gael y "gallu a'r awdurdod" i wrando a dyfarnu ar "yr achosion a'r materion hynny a drosglwyddir iddynt o hyn allan gan ei Fawrhydi'r Brenin fel yr arferent wneud hyd yma". Mae'r geiriau yn awgrymu bod Cyngor Cymru yn hen sefydliad, am ei fod wedi datblygu o "gyngor y tywysog" yn Llwydlo. Y cwbl wnaeth Deddf 1543 oedd ei fabwysiadu a'i gydnabod yn statudol.

Gwnaed y trefniadau ar gyfer "Sesiwn Fawr y Brenin yng Nghymru" gan Ddeddf 1536 gydag atodiad yn Neddf 1543. Rhoed i'r llysoedd hyn rym i weithredu "mewn dull mor helaeth a digonol" â Llys Mainc y Brenin, Llys y Pledion Cyffredin a'r llysoedd aseisus yn Lloegr. Roedd y Sesiwn Fawr i'w chynnal ddwywaith y flwyddyn ym mhob sir gan ustus. Roedd pob ustus i fod yn gyfrifol am grŵp o dair sir, a daethpwyd i adnabod pob grŵp o siroedd fel "cylchdaith". Roedd peirianwaith y gyfraith i'w gychwyn drwy gyhoeddi gwritiau yn y siawnsrïau lleol yng Nghymru, nid yn San Steffan. Roedd siryfion y siroedd Cymreig i gyflwyno'i gyfrifon i siecrau lleol yng Nghymru, nid i'r siecr Seisnig.[38]

Gallai'r enw "Deddfau Uno" (teitl a roddwyd iddynt gan Owen Morgan Edwards ym 1901) fod yn gamarweiniol os cyfeirir at Gymru'n uno â Lloegr.[nodiadau 5][39] Ar y llaw arall, mae'r enw yn un dilys os ei ddiben yw cyfeirio at y dywysogaeth yn uno â'r Mers. Gellir cyfiawnhau dweud, fodd bynnag, i Ddeddfau 1536 a 1543 wneud tri pheth tuag at gymathu Cymru a Lloegr mewn ystyr gyfansoddiadol:

  • Rhoes y ddwy Ddeddf Gymru o dan un gyfraith unffurf, sef cyfraith gyffredin a chyfraith statudol Lloegr, yn lle'r amryw gyfreithiau a weinyddid ynddi gynt. O 24 Mehefin 1541 fe ddiddymwyd unwaith ac am byth hynny o'r gyfraith Gymreig a oedd ar ôl.
  • Pennai Deddf 1536 fod holl siroedd Cymru, ynghyd â phrif dref pob sir (ac eithrio prif dref Sir Feirionnydd) i gael eu cynrychioli yn y senedd, a deddfodd Deddf 1543 fod "holl ddeiliaid y brenin ... yng Nghymru ..." o hynny allan "i gael eu trethu ac i fod yn gyfrifol am gyfrannu tuag at bob cymhorthdal a thaliadau eraill a bennir gan Dŷ'r Cyffredin yn unrhyw un o'r dywededig seneddau".
  • Pennai Deddf 1543 fod ustusiaid heddwch i'w penodi ym mhob un o "ddeuddeg sir Cymru".[40]

A hefyd:

  • Deddfwyd mai Saesneg fyddai unig iaith llysoedd Cymru ac na châi'r sawl a ddefnyddiai'r Gymraeg (hynny yw, y sawl heb fedru'r Saesneg) unrhyw swydd gyhoeddus yn nhiriogaethau'r brenin.
  • Ni fyddai'n rhaid i Gymry ddeisebu am lythyrau dinasyddiaeth fel petaent yn wladychwyr o dramor.[41]

Y dywysogaeth ar ôl 1543[golygu]

Golygai estyn peirianwaith cyfreithiol a gweinyddol tywysogaeth Cymru dros Gymru gyfan ddiddymu'r hen wahaniaethau o ran llywodraeth rhwng y dywysogaeth a'r Mers, a golygai hynny mai'r un bellach o safbwynt cyfansoddiadol oedd "Cymru" a "thywysogaeth Cymru". Adlewyrchwyd y newid hwn yn iaith gyfoes ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg: daeth yr ymadrodd "tywysogaeth Cymru" a hyd yn oed y term "y dywysogaeth" ar ei ben ei hun i gael eu defnyddio'n gyfystyr â "Chymru". Ac felly mae cofnod a ddyddiwyd 9 Mai 1574 yng Nghofnodion y Cyfrin Gyngor yn sôn am "gylchdeithiau" barnwrol Cymru fel "y cylchdeithiau yn y dywysogaeth honno".[42] Cyfeiria cofnod arall dyddiedig 27 Mai 1582 at esgobion Cymru fel "yr esgobion sy'n byw yn y dywysogaeth honno".[43] Pan benodwyd John Rastall yn ustus "cylchdaith" Caerfyrddin ym 1569 cyfeiriai'r llythyr penodi at ei swydd fel swydd "ustus siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion yn nhywysogaeth Cymru".[44]

O safbwynt cyfansoddiadol fe agorodd Deddfau 1536 a 1543 gyfnod yn hanes Cymru a barhaodd am bron dri chan mlynedd. Daeth y cyfnod i ben pan basiwyd ym 1830 (1 William 4 c. 70) Ddeddf seneddol a alwyd yn "Ddeddf er sicrhau gweinyddu mwy effeithiol ar y gyfraith yn Lloegr a Chymru".[45] Bu'n gyfnod pan weithredai Cymru fel uned lywodraeth ar ei phen ei hun ac ar wahân i Loegr o ran gweinyddu cyfraith a barn: "ei bod yn fuddiol dwyn i ben yr awdurdod cyfreithiol ar wahân ... yn Nhywysogaeth Cymru" yw'r ail o'r ddau reswm dros Ddeddf 1830 a nodir yn y rhaglith iddi.[46]

Serch y defnydd hynny o'r term "tywysogaeth Cymru" i ddisgrifio Cymru gyfan, nid oedd rôl gyfansoddiadol bellach gan y tywysog yng Nghymru ar ôl Deddfau 1536 a 1543. Teitl yn unig yw "tywysog Cymru" ers teyrnasiad Harri VIII.

Tywysogion Cymru mewn enw yn unig[golygu]

Nodiadau[golygu]

  1. Cofnodwyd telerau'r cytundeb - sydd yn rhagdybio, i raddau, delerau 1267 - mewn llythyr patent a gyhoeddwyd yn enw'r brenin ar 22 Mehefin 1265 (Foedera, I, i, 457) ac mewn dau lythyr patent gan Lywelyn, dyddiedig 19 Mehefin 1265 (Shirley, Letters of Henry III, ii, 284-7).
  2. Rhoddwyd Dinbych, Rhuthun, Maelor ac Iâl a'r Waun gan y brenin yn ystod haf a dechrau hyfred 1282, cyn marwolaeth Llywelyn; C. Chanc. R. Various, tud 223, 240-43; G.p. Jones (gol.), The Extent of Chirkland, tud x. Roedd Roger Mortimer wedi derbyn Ceri a Chedewain ym 1279; C. Pat. R., 1272-81, tud 297; C. Chart. R,, tud 211
  3. Noda un adran bur faith o Statud Cymru "y ffurfiau ar writiau gwreiddiol y brenin i'w pledo yng Nghymru" at ddefnydd y siawnsrïau lleol yng Nghaernarfon, Caerfyrddin a Chaer,
  4. Cedwir y cofnodion pwysig hyn yn nhystysgrifau cyfoes y siecr ac "eglurir" hwy a'u cofrestru yn y rhôl patent am 1343; C.Pat.R. 1343-45,l tud 227-34. Argraffwyd y testun Lladin llawn yn Edward Owen (gol.), A list of those who did homage and fealty to the first English prince of Wales in A.D. 1301 (cyhoeddwyd yn breifat ym 1901). Argraffwyd detholion wedi'u talfyrru gan David Powel yn ei Historie of Cambria (1584), ail arg. (1811), tud 280-1.
  5. "Y mae'n deitl camarweiniol gan ei fod yn awgrymu fod y mesur o'r un natur â'r mesurau a unodd yr Alban a Lloegr yn 1707, ac Iwerddon a Phrydain yn 1800. Deddfwriaeth a basiwyd gan seneddau'r naill wlad a'r llall oedd y Deddfau Uno hynny, seneddau a oedd, mewn egwyddor o leiaf, o awdurdod cyfartal"

Cyfeiriadau[golygu]

  1. John Davies. Hanes Cymru. Penguin 1990, tud. 142. ISBN 9780140125702
  2. Edwards, J. Goronwy; Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 5, Gwasg Prifysgol Cymru 1991, Cyfieithiad gan Gwynn ap Gwilym o waith a gyhoeddwyd ym 1969 gan Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.
  3. Am dri llythyr o'r math hwn at y brenin oddi wrth Lywelyn ym 1261-2 gweler J.G. Edwards (gol.), Cal. of Anc. Corr. concerning Wales, tud. 25–27
  4. Edwards, J.G. (gol.); Littere Wallie, tud. 1–5
  5. Edwards, J.G,; Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 6–7, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  6. Edwards, J.G,; Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 7–8, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  7. Edwards, J.G,; Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 8, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  8. Foedera, I, ii, 297.
  9. C. Chart. R., iii, 6.
  10. Edwards, J.G,; Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 11-12, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  11. Am y testun Lladin gwreiddiol (gyda chyfieithiad) gweler Statutes of the Realm, 55-70. Argraffwyd y cyfieithiad yn hwylus yn Ivor Bowen, The Statutes of Wales, tud 2-27
  12. Am hynodion adeiladwaith "Gorllewin Cymru" gweler E.H.R,, xxi (1916), tud 90-98
  13. Edwards, J.G,; Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 14-17, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  14. Johnstone, Hilda, Edward of Caernarvon, tud 60, n. 2.
  15. Yr arwisgiad cyntaf a gofnodir yn Rholiau'r Senedd yw arwisgiad Harri Mynwy ym 1399, Rot. Parlt.' iii, 426.
  16. Peerage Report, v, 43-44.
  17. Flores Historiarum (Rolls Ser), iii, 61
  18. Edwards, J.G,; Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 13-14, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  19. Edwards, J.G,; Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 19, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  20. Edwards, J.G,; Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 20, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  21. C.Pat.R., 1343-1345, tud 228.
  22. Edwards, J.G,; Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 21, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  23. Edwards, J.G,; Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 22-23, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  24. Edwards, J.G,; Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 41, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  25. 25.0 25.1 25.2 25.3 John Davies. Hanes Cymru. Penguin 1990, tud. 199. ISBN 9780140125702
  26. John Davies. Hanes Cymru. Penguin 1990, tud. 191. ISBN 9780140125702
  27. John Davies. Hanes Cymru. Penguin 1990, tud. 195. ISBN 9780140125702
  28. 28.0 28.1 John Davies. Hanes Cymru. Penguin 1990, tud. 200. ISBN 9780140125702
  29. John Davies. Hanes Cymru. Penguin 1990, tud. 201. ISBN 9780140125702
  30. 30.0 30.1 John Davies. Hanes Cymru. Penguin 1990, tud. 207. ISBN 9780140125702
  31. 31.0 31.1 31.2 31.3 John Davies. Hanes Cymru. Penguin 1990, tud. 208. ISBN 9780140125702
  32. Edwards, J.G,; Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 42, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  33. Gwefan Swyddogol y Frenhiniaeth Brydeinig
  34. John Davies. Hanes Cymru. Penguin 1990, tud. 210–211. ISBN 9780140125702
  35. Edwards, J.G, Tywysogaeth Cymru:1267-1967, tud. 28-29, Gwasg Prifysgolcymru 1991
  36. Edwards, J.G, Tywysogaeth Cymru:1267-1967, tud. 29, Gwasg Prifysgolcymru 1991
  37. Edwards, J.G, Tywysogaeth Cymru:1267-1967, tud. 30, Gwasg Prifysgolcymru 1991
  38. Edwards, J.G, Tywysogaeth Cymru:1267-1967, tud. 30-31, Gwasg Prifysgolcymru 1991
  39. John Davies. Hanes Cymru. Penguin 1990, tud. 220–222. ISBN 9780140125702
  40. Edwards, J.G, Tywysogaeth Cymru:1267-1967, tud. 33-35, Gwasg Prifysgolcymru 1991
  41. John Davies. Hanes Cymru. Penguin 1990, tud. 224–225. ISBN 9780140125702
  42. Acts of Privy Council 1571-75, tud. 236.
  43. Acts of Privy Council 1581-82, tud. 427-8.
  44. Cal. Pat. R. Elizabeth I, 1569-72, tud. 11.
  45. Bowen, tud. 239-48
  46. Edwards, J.G, Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 37-38, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  47. Edwards, J.G, Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 42-43, Gwasg Prifysgol Cymru 1991