Rhys Goch Eryri

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd o gyfnod Owain Glyndŵr a Rhyfeloedd y Rhosynnau oedd Rhys Goch Eryri (fl. 1385 - 1448).[1] Roedd yn gywyddwr medrus a phriodolir nifer o gerddi brud iddo yn ogystal.

Bywgraffiad[golygu]

Roedd yn frodor o ardal Beddgelert yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd). Ei athro barddol oedd Gruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Lygliw. Roedd yn gyfaill i'r bardd Llywelyn ap Moel y Pantri a chanodd farwnad iddo. Ceir cyfres o gerddi ymryson rhwng Rhys, Llywelyn a Siôn Cent ynghlych swyddogaeth y beirdd a natur yr Awen. Ymhlith y beirdd eraill yr oedd yn adnabod yr oedd Dafydd Nanmor, a drigai yn yr un ardal; mae'n bosibl fod Rhys Goch yn athro barddol iddo. Yn ôl traddodiad treuliodd Rhys Goch ei oes gyfan yn ardal Eryri. Roedd ganddo blasdy bychan yn Hafod Garegog ger Beddgelert a chafodd ei gladdu yn y pentref, yn eglwys Priordy Beddgelert, yn ôl y traddodiad.[1]

Cerddi[golygu]

Ceir sawl testun cerdd brud a briodolir i Rys ond mae'r awduraeth yn ansicr ac yn cael ei gwrthod gan ysgolheigion diweddar. Cywyddau traddodiadol yw'r mwyafrif o'i gerddi. Ei brif noddwr oedd Gwilym ap Gruffudd o'r Penrhyn (ardal Llandygái, ger Bangor).[1]

Cywyddau mawl[golygu]

Canodd i Robert ap Meredudd, un o hynafwyr Syr John Wynn o Wydir, pan fu'r uchelwr hwnnw allan gyda Glyndŵr. Ceir cywydd yn olrhain achau Wiliam Fychan Siambrlen Hen a chywydd i Syr Gruffudd Fychan. Canodd foliant i lys Gwilym ap Gruffudd. Yn y cerddi hyn amlygir cefnogaeth y bardd i achos Owain Glyndŵr.[1]

Cywyddau marwnad[golygu]

Canodd farwnadau i Feredudd ap Cynfrig o Fôn, Gwilym ap Gruffudd. Canodd farwnad i'w gyfaill a chyd-fardd Llywelyn ap Moel y Pantri.[1]

Cerddi eraill[golygu]

Priodolir y gerdd ymddiddan rhwng bardd a Charnedd Llywelyn i Rys Goch, ond bernir heddiw mai Ieuan ap Gruffudd Leiaf oedd yr awdur. Diddorol hefyd a phwysig er mwyn deall syniadaeth y beirdd am eu crefft yn y cyfnod hwnnw yw'r cywyddau ymryson rhwng Rhys Goch a Siôn Cent.[1]

Ceir cywyddau ganddo i ddiolch am gyllell hir, a dau gywydd dychanol i'r farf. Ei gerdd fwyaf anghyffredin efallai yw cywydd i'r llwynog yn erchi iddo ladd paun y bardd Dafydd Nanmor, cymydog iddo.[1]

Canodd gywydd i Feuno Sant yn ogystal.[1]

Llyfryddiaeth[golygu]

Y golygiad diweddaraf a mwyaf safonol yw,

Gweler hefyd,

  • Henry Lewis ac eraill (gol.), Cywyddau Iolo Goch ac Eraill (Caerdydd, 1937). Mae'r 'eraill' yn cynnwys adran o destunau Rhys Goch Eryri, golygwyd gan Ifor Williams.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 Dylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007).