Priordy Beddgelert

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Clas Celtaidd ac yn ddiweddarach priordy o Ganoniaid Rheolaidd Awstinaidd oedd Priordy Beddgelert.

Roedd Beddgelert yn glas Celtaidd o gyfnod cynnar iawn, yn ôl traddodiad yr hynaf yng Nghymru ar ôl Abaty Ynys Enlli. Yng nghyfnod Gerallt Gymro (tua 1188), roedd y sefydliad yn parhau i fod yn glas traddodiadol.

Erbyn y cyfnod hwnnw, roedd Abaty Aberconwy wedi derbyn rhoddion o diriogaethau eang yn Eryri, hyd at ychydig lathenni o glas Beddgelert. Bu anghydfod rhyngddynt, ac apeliodd Beddgelert at y pab. Oddeutu'r flwyddyn 1200, daeth y fynachlog yn briordy Awstinaidd; yn ôl pob tebyg trwy ddylanwad Llywelyn Fawr, a berswadiodd nifer o glasau yng Ngwynedd i droi yn dai Awstinaidd yn y cyfnod hwn. Cafodd y priordy rodd bellach o dir gan Llywelyn ap Gruffudd yn 1268.

Llosgwyd y priordy yn ystod rhyfel 1282, a thalwyd iawndal am hyn yn 1284. Diddymwyd y priordy yn 1536; dim ond tri canon, yn cynnwys y prior, oedd yno yr adeg honno. Amcangyfrifwyd fod yr incwm blynyddol yn £69.

Mae eglwys y priordy yn eglwys plwyf Beddgelert, ac mae rhai rhannau ohoni yn dyddio o gyfnod y priordy. Nid oes dim yn weddill o'r adeiladau eraill.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Rod Cooper Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992) ISBN 0-7154-07120