Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch ap Llywelyn Gaplan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Uchelwr diwylliedig a bardd (yn ôl pob tebyg) oedd Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch ap Llywelyn Gaplan (bl. ail hanner y 14eg ganrif).

Roedd yn gyfaill a chyfoeswr i'r bardd enwog Dafydd ap Gwilym ac yn gyfyrder i'r uchelwr a noddwr Rhydderch ab Ieuan Llwyd, gŵr y bu ganddo ran amlwg ym mywyd gwleidyddol a llenyddol Ceredigion yn y cyfnod dan sylw. Roedd Llywelyn yn un o noddwyr Dafydd ap Gwilym a ganodd ffug-farwnad ar ei ran i Rydderch ab Ieuan Llwyd. Canodd Llywelyn Goch ap Meurig Hen (bardd Lleucu Llwyd) gywydd i Lywelyn Fychan a Rhydderch gyda'i gilydd. Bu mab Llywelyn Fychan, Hywel, yn noddwr hefyd a chanodd Guto'r Glyn a Ieuan Deulwyn iddo.

Dim ond un gerdd a allai fod yn waith Llywelyn Fychan sydd ar glawr, ond dydy ei briodoldeb ddim yn sicr. Mae'n gerdd ddiddorol, deimladwy sy'n galaru pobl a fu farw o ryw "haint y nodau" - y Pla Du efallai - ac felly o ddiddordeb i haneswyr hefyd. Gan fod y gerdd yn cyfeirio at farwolaeth Dafydd ap Gwilym, yn ôl pob tebyg, mae lle da i gredu mai Llywelyn Fychan oedd yr awdur, er mai 'Llywelyn Fychan' yn unig yw'r enw geir yn y llawysgrifau.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon', Atodiad, Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007).