Gwerful Mechain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am y brydyddes o Fechain yw hon. Am ferched eraill o'r un enw gweler Gwerful (tudalen gwahaniaethu).

Bardd o Gymraes o Bowys a ganai yn ail hanner y 15fed ganrif oedd Gwerful Mechain neu Gwerful ferch Hywel Fychan (fl. c. 1460 - wedi 1502?). Mae hi'n enwog am ei cherddi erotig beiddgar - sy'n enghreifftiau rhagorol o ganu maswedd Cymraeg yr Oesoedd Canol - ac yn perthyn i ddosbarth prin o feirdd benywaidd yn Ewrop yr Oesoedd Canol.[1]

Bywgraffiad[golygu]

Fel mae ei henw yn ei awgrymu, brodores o ardal Mechain ym Mhowys oedd Gwerful. Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael amdani, ar wahân i dystiolaeth ei cherddi. Roedd hi'n ferch i Hywel Fychan a'i wraig Gwenhwyfar ferch Dafydd Llwyd. Roedd ei gor-hendaid Madog ab Einion yn uchelwr pwysig ym Mechain. Roedd ei thad, Hywel Fychan, yn byw yng nghwmwd Mechain Is Coed. Priododd Gwerful John ap Llywelyn Fychan a chafodd ddwy ferch o'r un enw ganddo (neu un ferch), sef Mawd. Yn ôl un traddodiad, roedd hi'n cadw tafarn.[2]

Dengys tystiolaeth ei chanu bod Gwerful yn ymdroi yng nghymdeithas lenyddol gogledd Powys. Doedd hi ddim yn fardd proffesiynol ac mae'n debyg iddi ddysgu barddoni ar yr aelwyd. Roedd hi'n adnabod sawl bardd arall yn yr ardal ac yn ymryson â hwy, ac yn eu plith y daroganwr enwog Dafydd Llwyd o Fathafarn, y cywyddwr medrus Ieuan Dyfi, a Llywelyn ap Gutun.[2]

Cerddi[golygu]

Priodolir tua 20 o destunau iddi yn y llawysgrifau. Mae'r golygiad diweddaraf o'i gwaith yn derbyn wyth o'r rhain fel testunau dilys a phump arall o awduraeth amheus a allai fod yn perthyn iddi. Yn ogystal ceir cerddi gan Ieuan Dyfi, Dafydd Llwyd a Llywelyn ap Gutun sy'n perthyn i ymrysonau barddol rhyngddynt a Gwerful.[2]

Er ei bod yn enwog am ei chanu maswedd, mae ei gwaith yn cynnwys dwy gerdd grefyddol, un ar Ddioddefiant Crist a'r llall ar angau a Dydd y Farn.[2]

O blith ei cherddi erotig, mae'n debyg mai 'Cywydd y Gont' (neu 'Cywydd y Cedor') yw'r testun mwyaf adnabyddus. Mae hwn yn gywydd crefftus sy'n dyfalu'r organ rhywiol benywaidd ac yn ei foli.[1] Dyma enghraifft, lle mae Gwerful yn beio'r beirdd am esgeuluso'r rhan hon o'r corff yn eu canu serch confensiynol:

Gado'r canol heb foliant
A'r plas lle'r enillir plant,
A'r cedor clyd, hyder claer,
Tynerdeg, cylch twn eurdaer,
Lle carwn i, cywrain iach,
Y cedor dan y cadach.[1]

Am flynyddoedd bu taw am y canu hwn gan ysgolheigion Cymraeg - yn gyhoeddus, o leiaf - ond heddiw mae Gwerful yn cael ei chydnabod fel un o'r mwyaf o brydyddesau'r Oesodd Canol a'u cerddi yn mwynhau cydnabyddiaeth fel cerddi unigryw ac arloesol.[1]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Nerys Ann Howells (gol.), Gwaith Gwerful Mechain ac eraill (Aberystwyth, 2001). Cyfres Beirdd yr Uchelwyr.
  • Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol/Medieval Welsh Erotic Poetry (Caerdydd, 1991). Cyfrol sy'n cynnwys 'Cywydd y Cedor' ac 'I Wragedd Eiddigeiddus', gyda chyfeithiad.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol/Medieval Welsh Erotic Poetry (Caerdydd, 1991).
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Nerys Ann Howells (gol.), Gwaith Gwerful Mechain ac eraill (Aberystwyth, 2001). Rhagymadrodd.