Gronw Gyriog

Oddi ar Wicipedia
Gronw Gyriog
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd14 g Edit this on Wikidata
PlantIorwerth ab y Cyriog Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg a ganai yn hanner cyntaf y 14g oedd Gronw Gyriog (fl. tua 1300 - tua 1360). Cyfeirir ato weithiau fel Goronwy Gyriog a Goronwy Gyriog ap Goronwy hefyd. Mae bron yn sicr ei fod yn frodor o Fôn. Er nad oes dystiolaeth bendant, gellir bod yn weddol hyderus mai mab Gronwy oedd y bardd Iorwerth ab y Cyriog.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ychydig a wyddom am y bardd. Ceir dogfennau cyfreithiol o Fôn, dyddiedig 1 Mai 1317, sy'n awgrymu cysylltu'r bardd â Llaneilian, cwmwd Twrcelyn. Ar sail yr enw Gor[onwy] Gyrryawk ap Gor[onwy] gellid cynnig mai Goronwy neu Gronwy oedd enw ei dad hefyd. I ategu'r awgrym fod Gronw yn hannu o'r ynys cyfeiria Sefnyn at golled fawr Môn yn ei farwnad iddo.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod]

Dwy gerdd yn unig o'i waith sydd wedi goroesi. Mae'r gyntaf yn awdl o foliant i Fadog ab Iorwerth o Goedmynydd. Mae'n bosibl mai Matthew de Englefield, esgob Bangor, yw'r Madog hwn (ffurf Seisnig ar ei enw), ac os felly gellid cynnig ei dyddio i'r blynyddoedd ar ôl 1328. Mae'n debygol hefyd iddi gael ei chanu gan y bardd yn llys yr esgob ym Mangor.[1]

Mae'r ail gerdd, yn farwnad i ferch o'r enw Gwenhwyfar, gwraig Hywel ap Tudur ap Gruffudd o Goedan ym mlwyf Llanfechell, cwmwd Talybolion, Môn. Merch o Edeirnion ym Mhowys oedd Gwenhwyfar, o dras brenhinol teyrnas Powys. Cafodd ei gladdu yn Abaty'r Brodyr Llwydion yn Llan-faes.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Golygir gwaith y bardd gan W. Dyfed Rowlands ac Ann Parry Owen yn,

  • Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill (Aberystwyth, 1997). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill (Aberystwyth, 1997).