Sypyn Cyfeiliog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o'r cywyddwyr cynnar oedd Sypyn Cyfeiliog, sef Dafydd Bach ap Madog Wladaidd (bl. tua 1340 – 1390). Er ein bod yn gwybod ei enw iawn, mae'n arfer cyfeirio ato fel rheol wrth ei enw barddol 'Sypyn Cyfeiliog'.

Fel mae ei enw barddol yn awgrymu, gŵr o gwmwd Cyfeiliog, yn ne-orllewin Powys ar y ffin â Gwynedd a Deheubarth oedd Sypyn Cyfeiliog. Awgrymir yr enw 'Sypyn' ei fod yn ddyn bychan o gorff. Ond dylid nodi hefyd fod trefgordd ganoloesol ger Machynlleth o'r enw 'llety Suppyn'. Mae achau Sypyn yn ansicr, er y gwyddom enw ei dad. Cofnodir uchelwr o'r enw Madog ap Dafydd ap Gruffudd a oedd yn ddisgynydd i'r tywysog Owain Cyfeiliog ond does dim modd gwybod ai hwn oedd y bardd neu beidio.

Cedwir chwech o gerddi gan Sypyn Cyfeiliog. Maent yn cynnwys awdl foliant i Ddafydd ap Cadwaladr o Fachelldref a chywydd moliant i Harri Salsbri ac Annes Cwrtes o Leweni, yn Nyffryn Clwyd. Ceir pedwar cywydd serch ac englyn.

Ceir cyfeiriadau at Sypyn Cyfeiliog gan Gruffudd Unbais, sy'n awgrymu fod Sypyn yn noddwr y bardd hwnnw, gan Gruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Llygliw a gan Hywel Dafi. Yn ogystal cyfeirir ato yn y darn rhyddiaith fwrlesg 'Araith Iolo Goch', un o'r Areithiau Pros.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog' a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998).


Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer