Llywelyn Ddu ab y Pastard

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Llywelyn Ddu ab y Pastard (bl. ail chwarter y 14eg ganrif). Prin yw ein gwybodaeth amdano. Priododd ei ferch Angharad David Hanmer, a chawsant blentyn: Margaret Hanmer a briododd Owain Glyn Dŵr, Tywysog Cymru.

Rydym yn dibynnu yn llwyr ar dystiolaeth ei gerddi a'i enw anghyffredin am ein gwydobaeth am Llywelyn Ddu ab y Pastard. Nid oedd y term bastard yn golygu 'plentyn siawns' o reidrwydd. Yn ôl Cyfraith Hywel ceid sawl lefel o briodas ac mae'n bosibl mae'r ffaith nad arddelwyd Llywelyn yn aer gan ei dad yw'r rheswm am y term yn yr achos hwn (ceir sawl enghraifft arall o'r term 'bastard' fel rhan o lysenw heb iddo fod yn derm difrïol fel heddiw). Yn ei gerddi cyfeiria'r bardd at Lyn Aeron, Ceredigion a Llawhaden, Sir Benfro; rhydd y bardd bwyslais arbennig ar y cyntaf ac felly mae'n bosibl ei fod yn frodor o'r ardal honno yn ne Ceredigion.

Cedwir dwy gerdd gan y bardd. Mae un yn awdl farwnad i deulu Trefynor, Mebwynion; awgrymwyd mai'r Pla Du a'u lladdodd. Mae'r ail gerdd yn ddychan i ŵr o'r enw Madog ap Hywel a'i osgordd. Ceir y testunau yn Llyfr Coch Hergest.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996). ISBN 0-947531-39-4