Dychan
Oddi ar Wicipedia
Cartŵn dychanol a ymddangosodd yn y cylchgrawn Barn, sy'n dychanu sut mae credoau George W. Bush a Tony Blair wedi effeithio ar eu penderfyniad i oresgyn Irac, a'r posibilrwydd o oresgyn Iran yn y dyfodol. Mae hefyd yn portreadu Bush fel cowboi sy'n arwain Blair mewn ffordd gwasaidd.
Dull llenyddol neu ffurf ar gelf yw dychan, sy'n ceisio amlygu ffolineb neu ynfydrwydd ei bwnc (boed hynny yn unigolion, sefydliadau, gwladwriaethau neu grefydd, a.y.y.b.) i wawdio, fel arfer fel ffordd fwriadol o brofocio neu atal newid. Yn y cymdeithasau Celtaidd, credai pobl y byddai dychan prydydd (bardd) yn cael effaith gorfforol ar y gwrthrych, megis melltith neu anffawd, ac yng Nghymru roedd canu dychan yn rhan nodweddiadol o ganu Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr. Mae hiwmor dychan yn tueddu i fod yn graff, ac yn defnyddio eironi a hiwmor deadpan.