Giovanni Boccaccio

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Giovanni Boccaccio gan Andrea del Castagno, fresco tua 1450.

Bardd ac awdur Eidalaidd oedd Giovanni Boccaccio (Mehefin neu Gorffennaf 131321 Rhagfyr 1375). Daeth yn un o ffigyrau amlwg y Dadeni Dysg yn yr Eidal. Mae'n fwyaf enwog fel awdur y Decamerone.

Ganed Boccaccio yn fab llwyn a pherth i'r marsiandïwr Boccaccio di Chellino, yn Certaldo neu Fflorens. Aeth i Napoli yn 1327 i weithio fel marsiandïwr. Tua 1340 roedd yn Fflorens, lle daeth yn gyfeillgar a Petrarca, a'i rhoes mewn cysylltiad a byd y dyneiddwyr. Ysgrifennodd fywgraffiad Dante, (Trattatello in laude di Dante, neu Vita di Dante) tua 1360).

Gweithiau[golygu]

Barddoniaeth[golygu]

Eidaleg[golygu]

  • Filocolo, addasiad o Floris ende Blancefloer
  • Elegia di Madonna Fiammetta
  • Filostrato
  • Teseida
  • Commedia delle Ninfe fiorentine of Ninfale d'Ameto
  • Ninfale fiesolano

Rhyddiaith[golygu]

Eidaleg[golygu]

  • Decamerone
  • Trattatello in laude di Dante (Vita di Dante)
  • Della geneologia de gli Dei (Gwyddoniadur o Fytholeg Groeg)

Lladin[golygu]

  • De casibus virorum illustrium (Dynion enwog)
  • De claris mulieribus (Merched enwog)
  • De genealogiis deorum gentilium (Gwyddoniadur o Fytholeg Groeg)