Prydydd

Oddi ar Wicipedia

Bardd wedi ei hyfforddi yn drwyadl yng nghelfyddyd cerdd dafod yw prydydd (benywaidd : prydyddes). Yn yr Oesoedd Canol dim ond y beirdd gorau oedd â'r hawl i'r teitl, ond yn y cyfnod modern daeth yn air mwy cyffredinol yn golygu 'bardd' neu unrhyw un sy'n mydryddu.

Ceir yr enghraifft gynharaf sydd ar glawr mewn cerdd a briodolir i Daliesin yn Llyfr Taliesin. Yno gwahanieithir yn amlwg rhwng prydyddion a beirdd cyffredin (fel y Glêr yn ddiweddarach). Yng nghyfnod Beirdd y Tywysogion roedd y prydydd yn fardd llys breintiedig gyda statws tebyg i'r pencerdd.

Mae Gramadegau'r Penceirddiaid yn pwysleisio goruchafiaeth a statws arbennig y prydydd ac yn amlygu nodweddion ei grefft :

Ni pherthyn ar brydydd ymyrru ar glerwriaeth... canys gwrthwyneb yw ei grefft ef. Canys crefft prydydd yw canmawl a chlodfori, a digrifháu, a gwneuthur moliant a gogoniant a diddanwch.
Gramadegau'r Penceirddiad (mewn orgraff ddiweddar)[1]

Ychwanegir fod gan y prydydd ei ddisgyblion, a'i fod yn athro barddol.

Mae'r beirdd canoloesol a arddelai'r gair 'prydydd' yn ei henwau yn cynnwys,

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. G. J. Williams ac E. J. Jones (gol.), Gramadegau'r Penceirddiaid (Caerdydd, 1934), t. 56.