Bwystori

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
"Y Llewpard" o Fwystori Rochester, 13eg ganrif
Llawysgrif Bwystori Aberdeen, 12fed ganrif

Casgliad o wybodaeth am fwystfilod yw bwystori neu bwystawr (Lladin Bestiarum vocabulum. Daeth bwystoriau yn boblogaidd yn yr Oesoedd Canol fel cyfrolau darluniedig sy'n disgrifio amryw anifeiliaid ac adar. Yn ogystal â disgrifiad o'r creaduriaid ceir fel rheol moeswers a chwedl(au) alegorïaidd. Gall yr alegorïau hynny fod yn chwedlonol neu'n perthyn i symbolaeth Gristnogol. Gellid eu hystyried yn allwedd i ddeall symbolaeth byd natur ym meddwl yr Oesoedd Canol.

Roeddynt yn arbennig o boblogaidd yn Ffrainc a Lloegr yn y 12fed ganrif, ond deilliant o ffynonellau cynharach. Yr enghraifft gynharaf a gafodd ei phoblogeiddio oedd cyfrol Roeg o'r 2ail ganrif gan awdur anhysbys a adnabyddir fel y Physiologus, ac roedd hynny yn ei thro yn tynnu ar wybodaeth a thraddodiadau hynafol a geir yn llyfrau rhai awduron claurol fel yr Historia Animalium gan Aristotlys a gweithiau eraill gan Herodotus, Pliny yr Hynaf, Solinus, Aelian a naturiaethwyr eraill.

Helaethwyd ar y Physiologus gan Sant Isidore o Seville (Llyfr XII o'r Etymologiae) a Sant Ambrose, a Gristioneddiodd y cynnwys trwy dynnu ar hanesion o'r Hen Destament. Yn ddiweddarach daeth yn arfer creu bwystoriau darluniedig, e.e. Sallwyr Isabelle (Llyfrgell Daleithiol Munich). Enghraifft enwog arall yw Bwystori Aberdeen, un o'r enwocaf o'r tua hanner cant o fwystoriau darluniedig sydd wedi goroesi. Lluniodd Leonardo da Vinci ei fwystori ei hun.

Er na chafwyd llawysgrifau darluniedig o'r bwystoriau yng Nghymru, cyfieithwyd y Bestiaire d'Amour, bwystori serch gan y Ffrancwr Richart de Fornival, i'r Gymraeg ar ddiwedd yr Oesoedd Canol a dechrau'r cyfnod modern. Mae'r Bestiaire d'Amour (Bwystori Serch) yn cynrychioli panllanw traddodiad seciwlar sydd â'i wreiddiau yng ngwaith y trwbadwriaid, yn enwedig Rigaut de Barbezieux (fl. 1170-1210).

Yn y cyfnod modern mae llenorion ac artistiaid fel Henri de Toulouse-Lautrec, Saul Steinberg a Jorge Luis Borges wedi creu bwystoriau sy'n cyfuno'r traddodiadol a ffrwyth eu dychymyg eu hunain.

Gweler hefyd[golygu]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Payne, Ann. (1990) "Mediaeval Beasts.
  • Hassig, Debra (1995) Medieval Bestiaries: Text, Image, Ideology.
  • Hassig, Debra, ed. (1999) The Mark of the Beast: The Medieval Bestiary in Art, Life, and Literature.
  • Benton, Janetta Rebold. (1992) The Medieval Menagerie: Animals in the Art of the Middle Ages.
  • Thomas, Graham C. G. (gol.), A Welsh Bestiary of Love (Dulyn, 1988)
  • George, Wilma and Brunsdon Yapp. (1991) The Naming of the Beasts: Natural History in the Medieval Bestiary.
  • Clark, Willene B. and Meradith T. McMunn. (1989) The Bestiary and its Legacy.

Dolenni allanol[golygu]