Llywelyn ab y Moel

Oddi ar Wicipedia
Llywelyn ab y Moel
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Bu farw1440 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Llywelyn ab y Moel (bl. tua 1395 - 1440), a adnabyddir hefyd fel Llywelyn ap Moel y Pantri.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Llywelyn yn perthyn i deulu o feirdd. Roedd yn fab i'r bardd Moel y Pantri ac yn dad i Owain ap Llywelyn ab y Moel. Mae'n debyg fod Llywelyn yn frodor o Lanwnnog yn Arwystli, Powys. Canodd i deuluoedd y Gororau am y ffin rhwng Maldwyn a Swydd Amwythig hefyd ar adeg pan oedd y Gymraeg yn ffynnu o hyd yng ngorllewin Swydd Amwythig. Mae tystiolaeth yn awgrymu'n gryf ei fod wedi ymuno yng Ngwrthryfel Owain Glyn Dŵr ar ddechrau'r 15g ac mae un o'i gerddi enwocaf yn disgrifio yr amser a dreuliodd gyda 'herwyr' eraill yng Nghoed y Graiglwyd, ger Croesoswallt.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod]

Mae'r cerddi o'i waith sydd ar glawr yn cynnwys cywyddau ar bynciau amrywiol, i'w bwrs, i'w farf, i'r bedlwyn ac i'w dafod, cerddi crefyddol i'r Forwyn Fair a'r Iesu, a thri chywydd sy'n rhan o ymryson barddol adnabyddus rhyngddo a Rhys Goch Eryri. Yn olaf, ond o ddiddordeb mawr i haneswyr y cyfnod, ceir cywydd am Frwydr Waun Gaseg (safle rhywle ym Mhowys), un o frwydrau llai gwrthryfel Glyn Dŵr.[1]

Dyma ran olaf ei gywydd i Goed y Graig Lwyd sy'n amlygu ei wladgarwch a'i deyrngarwch i achos Owain Glyn Dŵr:

Llwyr fendith i blith dy blaid,
Llawn dâl, llu Owain delaid,
Llwyr ystad, lloer ystodiau,
Llwyddid Duw'r llueiddiaid tau![2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog' a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog' a Llywelyn ab y Moel. Rhagymadrodd.
  2. Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog' a Llywelyn ab y Moel, 10.63-6.