Gruffudd ap Tudur Goch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd Cymraeg a fu yn ei flodau ganol y 14eg ganrif oedd Gruffudd ap Tudur Goch (c. 1330 - ). Fe'i cysylltir ag Arfon ac Ynys Môn.

Ceir Gruffudd ap Tudur Goch yn yr achau Cymreig fel gŵr o blwyf Llanwnda, cwmwd Uwch Gwyrfai yn Arfon, a aned tua 1330. Mae'n debygol ei fod yn dal tir ym Môn. Roedd yn un o ddisgynyddion Cilmin Droetu, teulu blaenllaw yn Arfon a gysylltir â'r Gyfraith Gymreig. Roedd yn teulu a gynhyrchiodd fwy nag un bardd hefyd, e.e. Einion ap Madog ap Rhahawd, yntau'n perthyn yn ei dro i Gruffudd ab yr Ynad Coch, a ganodd farwnad enwog i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd.

Dim ond un gerdd gan y bardd sydd wedi goroesi, ond mae'n awdl anghyffredin iawn am freuddwyd. Ceir sawl cyfeiriad at gymeriadau o'r chwedlau Cymraeg Canol ynddi, yn enwedig Breuddwyd Macsen ac Iarlles y Ffynnon, ond hefyd Pedair Cainc y Mabinogi a Culhwch ac Olwen. Ceir cyfeiriadau hefyd at gymeriadau a enwir yn y Trioedd.

Llyfryddiaeth [golygu]

Golygir gwaith y bardd gan Rhiannon Ifans yn,

  • Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill (Aberystwyth, 1997). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.