Gwilym Tew

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Gwilym Tew (fl. 1460 - 1480) yn fardd a chopïydd llawysgrifau, yn enedigol o Dir Iarll ym Morgannwg.

Y mae'n bosibl ei fod yn fab i'r bardd Rhys Brydydd (fl. tua chanol y 15fed ganrif) neu ei frawd.

Ymhlith ei gerddi mae cywyddau serch, cywyddau gofyn, nifer o gerddi mawl traddodiadol i noddwyr, a dwy awdl i'r Forwyn Fair.

Bu Gwilym Tew yn berchen ar Lyfr Aneirin am gyfnod. Copïodd nifer o lawysgrifau yn cynnwys copïau o'r Trioedd, llyfr achau, casgliad o'i gerddi ei hun, a dwy eirfa sydd ymhlith yr engheifftiau cynharaf o'i math.

Yn llawysgrif Peniarth 51, yn ei law ei hun, ceir cyfieithiad Cymraeg o'r bwystori Ffrangeg Bestiaire d'Amour gan Richart de Fornival.

Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill