Tir Iarll

Oddi ar Wicipedia
Tir Iarll
Mathardal, cwmwd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaDiwylliant Cymraeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.561°N 3.67°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Tir Iarll yn ardal, a fu gynt yn gwmwd, ym Morgannwg sy'n cynnwys plwyfi Llangynwyd, Betws, Cynffig a Margam.

Cafodd yr enw am iddo syrthio i feddiant Iarll Caerloyw yn sgîl Goresgyniad y Norman.

Mae wedi bod yn fagwrfa i feirdd o gyfnod cynnar ac wedi ennill le arbennig iddo'i hun yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Mae'r beirdd a gysylltir â Thir Iarll trwy eu genedigaeth neu eu gwaith yn cynnwys Rhys Brydydd, ei fab Rhisiart ap Rhys, Gwilym Tew a fu'n berchen ar Lyfr Aneirin am gyfnod, y pencerdd Lewys Morgannwg (fl. 1520-1565), Siôn Bradford, Dafydd Benwyn. Yn ddiweddarach, ffugiodd Iolo Morganwg lawer o gerddi a dogfennau sy'n ymwneud â Thir Iarll a'i droi yn fagwrfa beirdd a etifeddasai ddysgeidiaeth y derwyddon ac a gynhaliai ddefodau 'Gorsedd Beirdd Ynys Prydain' dros y canrifoedd.

Roedd diwylliant Cymraeg yr ardal yn unigryw. Dyma fro oedd yn enwog am ei chwndidau a'i thribannau. Roedd gan y fro draddodiad llên gwerin cryf. Ym mhlwyf Llangynwyd ("yr henblwyf") y blodeuodd y Fari Lwyd, er enghraifft. Yn Nhir Iarll hefyd y mae Cefn Ydfa, cartref Ann Maddocks, "Y Ferch o Gefn Ydfa".

Mae un o gerddi grymusaf a mwyaf adnabyddus y prifardd Gerallt Lloyd Owen yn deyrnged i'r Tir Iarll a fu. Dyma ran ohono:

Bu'r hen iaith ar y bryniau hyn
yn aflonyddu flynyddoedd
yn ôl, hen iaith
ein hatgofion ni.
(Cerddi'r Cywilydd)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]