Cynffig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canol Cynffig.

Pentref ym mwrdeisdref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Cynffig (Seisnigiad: Kenfig). Hyd at 1832 roedd yn fwrdeisdref. Saif yn yr ardal a adwaenid fel Tir Iarll.

Ceir olion yn yr ardal o oes yr Efydd, ac roedd yma dref yn y Canol Oesoedd sydd yn awr wedi ei gorchuddio gan dywod Twyni Cenffig. Adeiladwyd y pentref presennol ymhellach o'r môr.

Dynodwyd Twyni Cenffig a'r llyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol; ceir nifer o blanhigion prin yn y twyni ac mae'r llyn yn le poblogaidd i wylio adar. Ceir adfeilion Castell Cynffig yma hefyd, yntau wedi ei gladdu gan y tywod.

Gerllaw, mae Y Sger, cartef Elizabeth Williams (Y Ferch o'r Sger) yn y 18fed ganrif.


CymruPenybont.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato