Y Fari Lwyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Criw'n ymgynull yn Rhuthun, oddeutu'r Nadolig er mwyn tywys Y Fari Lwyd o gwmpas rhai o dai'r ardal.

Deillia'r hen arfer o dywys y Fari Lwyd o gwmpas tai o hen ddefod a oedd unwaith yn ymwneud â ffrwythlondeb. Fe'u cynhelid o noswyl y Nadolig hyd 6 Ionawr ac weithiau ar ôl hynny hyd yn oed ac roedd i'r ddefod gysylltiad arbennig â Nos Ystwyll (sef 5 Ionawr). Ymhlith yr arferion eraill a gynhelid yr adeg hon (ond sydd, yn wahanol i ddefod y Fari Lwyd wedi diflannu o'r tir) y mae hela'r dryw bach a gwaseila. Mae pentref Llangynwyd ym Morgannwg yn parhau hyd heddiw i gynnal y Fari Lwyd, ac yn ddiweddar mae llawer o ardaloedd wedi ei hatgyfodi.

Arferai partion canu gwaseila ei gludo o ddrws i ddrws yn ystod tymor y Nadolig, a chredir mai'r un oedd y ddau draddodiad paganaidd hyn yn wreiddiol.

Y Fari Lwyd, Dawnswyr Môn.

Y ceffyl pantomeim[golygu]

Yn ôl rhai y Fari Lwyd Geltaidd yw tarddiad y cymeriad hanfodol hwnnw, y Ceffyl Pantomeim.Mae'n ymddangos mor bell yn ôl â 1503 mewn drama Gernyweg, Beunaus Meriasek, am fywyd Sant Meiriadog.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan Barn; Y Pridd A'r Concrid - Hiliaeth cefn gwlad gan John Pierce Jones; adalwyd 05/01/2013

Gweler hefyd[golygu]

Dolen allanol[golygu]

Draig.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato