Siôn Ceri

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd oedd Siôn Ceri, sef Siôn ab y Bedo ap Deio Fychan (bl. diwedd y 15fed ganrif - 1540au), a gysylltir â chwmwd Ceri yn ardal Maldwyn, Powys.

Ceir 58 o gerddi gan Siôn ar glawr, yn awdlau, cywyddau ac englynion. Cywyddau mawl a marwnadau i uchelwyr lleol tiriogaeth Powys Wenwynwyn yw trwch y cerddi hyn; ceir cerddi i noddwyr ym Meirionnydd, Ceredigion a'r gogledd-ddwyrain hefyd. Canai ar destunau crefyddol yn ogystal, e.e. cywydd i'r Grog yn Aberhonddu ar gais Rhys ap Morys o Aberbechan - a cheir tri chywydd serch hefyd.

Roedd Siôn Ceri yn ddisgybl barddol i'r bardd mawr Tudur Aled. Canodd farwnad iddo sy'n cyfeirio ato fel,

F'athro hoywdwf weithredoedd;
a'i air da ym erioed oedd.[1]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Gwaith Siôn Ceri, cerdd 45.9-10.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • A. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Siôn Ceri (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth, 1996).
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.