Llywelyn ap Gwilym Lygliw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd o Gymru a oedd yn perthyn i'r Llygliwiaid, teulu o feirdd y cysylltir eu henwau ag ardaloedd Powys a Meirionnydd, oedd Llywelyn ap Gwilym Lygliw (fl. diwedd y 14eg ganrif - dechrau'r 15fed ganrif).

Ni wyddys dim o gwbl am hanes y bardd. Roedd yn perthyn i'r Llygliwiaid ond ni cheir ei enw ef nac eiddo ei dad yn yr achau.

Un gerdd yn unig o'i waith sydd ar glawr. Yn y rhan fwyaf o'r 24 test ohoni yn y llawysgrifau mae'n cael ei phriodoli i Siôn Cent (15) neu eglwyswr o'r enw Hywel Hir (7), ond ar sail nodweddion mydryddol ac ieithyddol y gerdd mae'r awdurdodaeth hynny yn cael ei gwrthod a thueddir i'w derbyn fel gwaith Llywelyn ap Gwilym Lygliw.

Prif bwnc y cywydd yw gweledigaeth o Uffern gan Pawl yn nhraddodiad cyfarwydd yr Oesoedd Canol lle mae gweledigaethau o'r math yn gyfrwng i rybuddio yn erbyn drychynfeydd y byd yr ochr arall i'r bedd sy'n disgwyl yr annuwiol. Rhagflaenir hyn gan fath o hanes mydryddol o'r Iachawdwriaeth yng Nghrist dros Bum Oes y Byd ac fe'i diweddir gydag adran sy'n disgrifio'r Saith Pechod Marwol a'r llwybr i'r Nefoedd.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Rhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill (Aberystwyth, 2000).