Edward Dafydd (Morgannwg)

Oddi ar Wicipedia
Edward Dafydd
Ganwyd1600s Edit this on Wikidata
Bu farw1670s Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler Edward Dafydd.

Bardd traddodiadol o Forgannwg oedd Edward Dafydd (tua 1600 - 1678?). Bu'n fardd enwog yn ei gyfnod ac yn ddiweddarach fe ddaeth yn rhan o "fytholeg" ramantaidd Iolo Morganwg.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ceir peth ansicrwydd am union ddyddiad geni a marw Edward Dafydd, ond mae'n deybgol iddo gael ei eni yn 1600 ym mhlwyf Margam, Sir Forgannwg. Roedd yn un o'r olaf o'r beirdd proffesiynol yn nhraddodiad gwydn Beirdd yr Uchelwyr, nid yn unig ym Morgannwg ond yng Nghymru gyfan. Arferai fynd ar deithiau clera o gwmpas plasdai ei sir enedigol ac weithiau hefyd i siroedd cyfagos.

Mae'n bosibl mai Llywelyn Siôn oedd ei athro barddol. Er bod ei ganu o safon uwch na llawer o'i gyfoeswyr, ni ellir ei gymharu â gwaith meistri mawr Morgannwg genhedlaeth neu ddwy cyn ei gyfnod, fel Dafydd Benwyn, ac yn sicr mae'n is ei safon na chanu cain Lewys Morgannwg (1520-1565).

Yn ôl pob tebyg bu farw yn 1678 a chafodd ei gladdu yn ei Fargam enedigol.

Ffugiadau Iolo Morganwg[golygu | golygu cod]

Ymhell ar ôl ei farwolaeth, tynnwyd Edward Dafydd i mewn i ffugiadau llenyddol Iolo Morganwg. Honnai Iolo fod Edward Dafydd wedi rhoi trefn ar "Ddosbarth Morgannwg" o fesurau Cerdd Dafod — fel y'i ceir yn Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain — a'i fod yn un o'r penceirddiaid "derwyddol" a gynhaliai'r traddodiad yn y fro. Gwyddys bellach nad oes sail o gwbl i'r honiadau hyn. Cwbl ffug hefyd yw'r cerddi o waith Iolo a dadogwyd ganddo ar Edward Dafydd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Erys gwaith Edward Dafydd heb ei olygu. Am y cefndir a ffugiadau Iolo Morganwg, gweler:

  • G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)