Lewys Glyn Cothi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o feirdd Cymraeg mwyaf y 15fed ganrif oedd Lewys Glyn Cothi (tua 1425 - tua 1490). Roedd yn fardd cynhyrchiol iawn a ganai'n rhwydd ac eglur ar sawl mesur.

Cynnwys

Ei fywyd [golygu]

Ni wyddys fawr dim am Lewys Glyn Cothi ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth ei gerddi. Arferid credu y cafodd ei enw barddol am iddo fod yn frodor o lannau afon Cothi yn Sir Gaerfyrddin, ond gwyddys erbyn hyn mai frodor o ardal ym mhlwyfi Llanybydder a Llanfihangel-rhos-y-corn, yn yr un sir, sy'n cynnwys fforest frenhinol Glyn Cothi, oedd ef. Ymddengys iddo gael ei eni yno yn y 1420au, efallai tua'r flwyddyn 1425. Gellir dyddio y gerdd olaf ganddo sydd ar glawr i fis Mawrth, 1489, ac felly gellir casglu iddo farw rywbryd yn y blynyddoedd ar ôl hynny, yn y 1490au yn ôl pob tebyg.

Llywelyn oedd ei enw bedydd, ond defnyddiai'r bardd ei hun amryw ffurfiau ar 'Lewys' neu 'Lewis', e.e. Lewys Glyn Cothi (y ffurf amlach) a Lewys y Glyn. Ceir awgrym mewn un o'i lawysgrifau ei fod wedi gwasanaethu ym Mhriordy Caerfyrddin a'i fod wedi derbyn peth addysg yno. Medrai ysgrifennu - camp anghyffredin yn yr Oesoedd Canol - ac mae rhai o'i lawysgrifau wedi goroesi. Roedd yn Lladinwr da hefyd, awgrym arall ei fod wedi derbyn addysg yn y priordy, a fu'n enwog am ei sgriptoriwm.

Credid ar un adeg iddo wasanaethu fel swyddog ym myddin Siasbar Tudur yn Rhyfeloedd y Rhosynnau. Ond er y gellir derbyn, ar sail un o'i gerddi, iddo fod yn dyst i Frwydr Mortimer's Cross (1461) gyda meibion Gruffudd ap Nicolas, mae'n anhebygol iddo fod yn swyddog. Treuliodd gyfnod ar herw yn ardal Pumlumon ac, yn nes ymlaen, yn Eryri, ar ôl y frwydr dynghedfennol honno. Roedd yn gefnogwr brwd i achos y Lancastriaid ond canodd i rai o gefngowyr y Iorciaid yng Nghymru yn ogystal. Ond "mae'n amlwg hefyd fod buddiannau Cymru'n bwysicach yn ei olwg na llwyddiant unrhyw un o bleidiau Lloegr"[1] ac mae ei wladgarwch a'i gasineb o'r Saeson yn elfennau amlwg yn ei ganu. Dengys ei gerddi ei fod yn gyfarwydd â phob rhan o Gymru, o Fôn i Fynwy, yn llythrennol.

Ei gerddi [golygu]

Cedwir 238 o awdlau a chywyddau gan Lewys Glyn Cothi yn y llawysgrifau. Mae'r rhain yn cynnwys naw o gerddi crefyddol, yn cynnwys awdl nodedig 'I Saint Cymru'. Canodd nifer o gerddi mawl a marwnadau i rai o wŷr amlycaf yr oes yng Nghymru. Roedd ei noddwyr yn cynnwys y Tuduriaid, sef Siasbar Tudur, Edmwnd Tudur, a Harri Tudur, Syr Rhys ap Tomas, a Gruffudd ap Nicolas. Canodd sawl cerdd darogan yn ogystal.

Un o'i gerddi mwyaf adnabyddus, a hynny ers canrifoedd, yw 'Dychan Gwŷr Caer', sy'n seiledig ar brofiadau'r bardd yn y ddinas honno mewn cyfnod pan fu'r Cymry yn cael eu trin fel dinesyddion eilradd. Mae'n cynnwys rhai o'r cwpledi mwyaf miniog ym marddoniaeth Gymraeg. Er enghraifft:

Ni bu faer yng Nghaer anghywirach,
ni bu sersiant waeth na neb gaethach,
ni bu haid ddiawliaid ddelach - eu gwahodd,
ni bu ieir un fodd na brain feddwach,
na gwragedd Llundain garnbuteiniach,
na gwŷr un floneg garnfileiniach,
na meibion gweinion gwannach - yn eu cred,
na merched ar lled yn anlladach,
na llyffaint un fraint, na moch fryntach,
na chwain un lifrai, na chŵn lyfrach,
na phlasau cynddrwg, na ffalsach ddynion,
na thir fwy o ladron, na thref leidrach.[2]

Ymddiddorai'n fawr yn achau'r Cymry yn ogystal, ac mae ei lawysrifau yn cynnwys nodiadau achyddol a lluniau deniadol o arfbeisiau prif deuluoedd Cymru. Gellir ei ystyried felly yn un o herodwyr mawr y cyfnod yn ogystal.

Un o'r cerddi mwyaf dirdynol yn y Gymraeg ydyw ei gerdd i'w fab Sion a fu farw'n bump oed:

Un mab oedd degan i mi,
Dwynwen, gwae’i dad o’i eni!
Gwae a edid o gudab
i boeni mwy heb un mab.
Fy nwy ais, farw fy nisyn,
y sy’n glaf am Siôn y Glyn.
Udo fyth yr ydwyf i
am benaig Mabinogi.
Afal pêr ac aderyn
a garai’r gwas, a gro gwyn;
bwa o flaen y ddraenen,
cleddau digon brau o bren;
ofni’r bib, ofni’r bwbach,
ymbil â'i fam am y bêl fach...

Mae gweddill y gerdd i'w chael ar Wicidestun.

Llawysgrifau [golygu]

Ceir casgliadau pwysig o waith y bardd yn llawysgrifau Peniarth, yn cynnwys llawysgrif Peniarth 109 yn ei law ei hun, Llyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Hergest ac yn llawysgrifau Llansteffan.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi, tud. xxv.
  2. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi, cerdd 215.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995). Y golygiad safonol o waith y bardd, gyda rhagymadrodd, nodiadau a geirfa.
  • E. D. Jones (gol.), Gwaith Lewis Glyn Cothi: y Gyfrol Gyntaf (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Testun llawysgrif Peniarth 109 yn llaw y bardd ei hun, yn yr orgraff wreiddiol. (Ni chafwyd ail gyfrol).