Gruffudd ap Nicolas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Uchelwr o Sir Gaerfyrddin a gofir yn bennaf fel noddwr Eisteddfod Caerfyrddin (tua 1451) oedd Gruffudd ap Nicolas neu Gruffudd ap Nicolas ap Phylib ap Syr Elidir (fl. 1425 - 1456). Roedd yn arglwydd Dinefwr a stiward lleol i Frenin Lloegr yn yr ardal. Fe'i ystyrir y gŵr mwyaf ei allu a'i awdurdod yng ngorllewin Cymru yn ei gyfnod.

Daeth Gruffudd yn siryf Caerfyrddin yn 1436. Mae astudiaethau diweddar yn pwysleisio'r ffyrdd dichellgar a ddenfyddiodd i grynhoi awdurdod i'w ddwylo ei hun ac i ymgyfoethogi ar draul arglwyddi Seisnig absennol ac uchelwyr Cymreig fel ei gilydd (ond mewn hyn o beth roedd yn ddrych i'w ddosbarth yn yr oes ansefydlog honno). Ym mywgraffiad Syr Rhys ap Tomas, disgrifir Gruffudd fel,

A man of hott, firie, and cholerrick spiritt; one whos counsells weare all in turbido, and therefore narurallie fitlie composed and framed for the times: verie wise he was, and infinitlie subtile and craftie, ambitiouse beyond measure, of a busie stirring braine.[1]

Tua'r flwyddyn 1451, cynhaliodd eisteddfod enwog yng Nghastell Caerfyrddin. Tyrrodd nifer o feirdd a cherddorion yno o bob cwr o Gymru i gystadlu, ond prif bwrpas yr eisteddfod oedd ad-drefnu rheolau Cerdd Dafod, yr hyn a wnaed gan y bardd Dafydd ab Edmwnd, enillydd y Gadair, a osododd allan y pedwar mesur ar hgain. Gruffudd ap Nicolas ei hun a feirniadodd, sy'n dangos ei fod yn gyfarwydd â gwaith y beirdd a'r traddodiad barddol Cymraeg.

Ymhlith y beirdd a ganodd glod Gruffudd ap Nicolas oedd Lewys Glyn Cothi, Gwilym ab Ieuan Hen, a Dafydd ab Edmwnd ei hun.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Dyfynnir gan Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), tud. 528.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Ralph A. Griffiths, Syr Rhys ap Thomas and his Family (Gwasg Prifysgol Cymru, 1993). Cyfrol sy'n cynnwys pennod ar Gruffudd ap Nicolas a thestun The Life of Sir Rhys ap Thomas.