Sgriptoriwm

Oddi ar Wicipedia
Sgriptoriwm

Ysgrifendy mewn mynachlog lle copiwyd llawysgrifau â llaw yn yr Oesoedd Canol yw sgriptoriwm (benthyciad o'r gair Saesneg scriptorium (lluosog: scriptoria) sydd yn ei dro yn fenthyciad o'r Lladin canoloesol script-, scribere (ysgrifennu), gyda -orium yn ansoddair sy'n dynodi 'lle': felly "lle ar gyfer ysgrifennu"). Fel rheol, lle ceid sgriptoriwm ceid llyfrgell yn ogystal.

O gyfnod eu tarddiad yn y 6g ar gyfandir Ewrop ymlaen, chwareodd sgriptoriau ran bwysig fel cyfryngau i drosglwyddo etifeddiaeth lenyddol yr Henfyd i'r dyfodol, ac wrth wneud hynny, yn ddethol, daethant i ddiffinio diwylliant cyffredin Ewrop, sef diwylliant Lladin yr Oesoedd Canol. Copïai mynachod lyfrau pwysig fel Beibl Lladin Fwlgat Sant Jerome a gweithiau Tadau'r Eglwys fel Sant Awstin o Hippo. Roedd y llawysgrifau hyn yn fodd i ledaenu dysg ledled Ewrop. Yn ddiweddarach, cafodd llawysgrifau yn yr ieithoedd brodorol eu cynhyrchu yn y sgriptorau hefyd, e.e. Llyfr Du Caerfyrddin yng Nghymru, y credir iddo gael ei ysgrifennu yn sgriptoriwm Priordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog yng Nghaerfyrddin.

Rhennid y gwaith yn y sgriptoriwm fel rheol. Gwaith rhai mynachod oedd paratoi'r memrwn trwy ei smwddio a'i galchu, tra bod eraill yn tynnu llinellau ar y tudalennau ac yn ysgrifennu'r testun. Ar gyfer gwaith arbennig roedd gan y mynachlogydd mawr arlunwyr i ddarlunio a lliwio'r testun. Mewn mynachlogydd llai efallai mai gwaith un mynach fyddai'r cyfan.

O ddechrau'r 13g wynebai'r sgriptorau gystadleuaeth gan weithdai copïo seciwlar ar gyfer pobl llëyg. Ar gyfandir Ewrop, yn arbennig yn yr Eidal, cafwyd siopau llyfrau yn y dinasoedd, fel Fflorens, o tua 1250 ymlaen. Byddent yn gweithio gyda'r gweithdai copïo ac erbyn diwedd y 15g roeddent wedi disodli'r mynachlogydd.

Am fod sgriptoriwm unigol yn tueddu i fod yn ynysig ac i ddatblygu ffurfiau sgript neilltuol, mae paleograffwyr heddiw yn medru dyddio llawysgrifau'n fanwl trwy gymharu arddull.