Harri VII, brenin Lloegr
Roedd Harri Tudur (Saesneg Henry Tudor), y brenin Harri VII o Loegr (28 Ionawr 1457 - 21 Ebrill 1509), yn frenin teyrnas Lloegr o 1485 hyd at ei farwolaeth. Mab Edmwnd Tudur, un o feibion Owain Tudur a brawd Siasbar Tudur, a Margaret Beaufort oedd Harri. Elisabeth o Efrog oedd ei wraig. Yng nghastell Penfro, pencadlys ei ewythr Siasbar yn Sir Benfro, de-orllewin Cymru, y cafodd ei eni.
Daeth yn frenin Lloegr yn 1485 ar ôl ennill brwydr Bosworth a churo'r brenin Rhisiart III o Loegr a laddwyd ar y maes ar ôl y frwydr. Cynrychiolai blaid y Lancastriaid yn erbyn yr Iorciaid yn rhan olaf Rhyfeloedd y Rhosynnau. Ond llwyddodd i uno'r ddwy blaid a rhoi terfyn ar y rhyfel drwy briodi aeres Iorcaidd - Elisabeth o Efrog. Bregus iawn oedd ei hawl i fod yn frenin Lloegr, ond medrai aros mewn grym drwy ei ddoniau gwleidyddol.
Roedd wedi defnyddio ei gysylltiadau teuluol â Chymru i ennill cefnogaeth y Cymry i'w ymgyrch i gipio'r goron, ond ni ddefnyddiodd ei ddylanwad wedyn i adfer ymreolaeth y Cymry. Roedd y Cymry a'i dilynodd i faes Bosworth yn gobeithio mai Harri oedd y Mab Darogan - fel Owain Lawgoch ac Owain Glyndŵr o'i flaen - a fyddai'n adfer Ynys Brydain i'r Brythoniaid, sef y Cymry. Erys ar glawr nifer o gerddi darogan neu frudiau o'r cyfnod hwnnw sy'n dangos mor angerddol oedd y gobaith fod yr amser hir-ddisgwyliedig wedi dod. Ond rhyw wythfed ran o Gymro o ran ei waed oedd Harri ac nid oes sicrwydd ei fod yn medru siarad Cymraeg hyd yn oed am ei fod wedi'i magu yn y castell ym Mhenfro a threulio cyfnodau maith mewn alltudiaeth yn Ffrainc.
Llwyddodd i greu perthynas dda rhwng Lloegr â'r Alban drwy drefnu priodas ei ferch Marged â'r brenin Iago IV, brenin yr Alban.
Plant [golygu]
- Arthur Tudur (1486-1502)
- Marged Tudur (1489-1541)
- Harri VIII, brenin Lloegr (1491-1547)
- Elisabeth Tudur (1492-1495)
- Mari Tudur (1496-1533)
- Edmwnd Tudur (1499-1500)
- Catrin Tudur (1503)
Ei linach gwrywaidd [golygu]
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ednyfed Fychan m. 1246 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Goronwy ab Ednyfed m. 1268 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Tudur Hen (neu Tudur ap Goronwy) m. 1311 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Goronwy ap Tudur Hen m. 1331 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
Elen ferch Tomos (mam Owain Glyn Dŵr) |
|
|
Marged ferch Tomos |
|
|
Tudur ap Goronwy m. 1367 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Maredudd ap Tudur m. 1406 |
|
Rhys ap Tudur m. 1409 |
|
Gwilym ap Tudur m. 1413 |
|||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Owain Tudur m. 1461 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Edmwnd Tudur m. 1456 |
|
Jasper Tudur m.1495 |
|||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Harri VII, brenin Lloegr m. 1507 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Llyfryddiaeth [golygu]
Ceir nifer o lyfrau am Harri Tudur ond ychydig iawn ohonynt sy'n edrych ar ei yrfa o safbwynt Cymreig. Ymhlith yr ychydig eithriadau ceir:
- David Rees, The Son of Prophecy (1985; argraffiad newydd, John Jones, 1997)
| Rhagflaenydd: Rhisiart III |
Brenin Lloegr 22 Awst 1485 – 21 Ebrill 1509 |
Olynydd: Harri VIII |