Mab Darogan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Y Mab Darogan yw'r gwaredwr a ddaw i arwain y Cymry i fuddugoliaeth derfynnol ar y Saeson a'u gyrru allan o Ynys Prydain gan adfer y deyrnas i feddiant y Cymry, disgynyddion y Brythoniaid. Mae'r Mab Darogan yn ffigwr Meseianaidd sydd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes Cymru dros y canrifoedd. Mae sawl person hanesyddol wedi cael ei uniaethu â'r Mab Darogan yn y gorffennol, gan gynnwys Arthur ac Owain Glyndŵr.

Canu Darogan[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Canu Darogan

Ceir nifer fawr o gerddi Cymraeg canoloesol, a adnabyddir fel y Canu Darogan neu'r brudiau, sy'n darogan dyfodiad y Mab Darogan. Gellir olrhain y canu hwn yn ôl i'r 10fed ganrif a'r gerdd Armes Prydain, ond mae'n bosibl fod ei wreiddiau'n gynharach. Roedd y canu darogan yn arbennig o boblogaidd yn y 14eg a'r 15fed ganrif ; roedd rhai o'r beirdd proffesiynol fel Dafydd Llwyd o Fathafarn yn cyfansoddi cerddi darogan, ond ymddengys fod y rhan fwyaf o'r cerddi yn gynnyrch dosbarth arbennig o feirdd is eu statws, fel y Glêr. Tadogir nifer o'r cerddi hyn ar feirdd cynnar, yn enwedig Taliesin (yn aml dan yr enw Taliesin Ben Beirdd) a Myrddin. Ceir sawl cyfeiriad at y Mab Darogan mewn rhyddiaith Cymraeg Canol yn ogystal. Yn nes ymlaen, dylanwadwyd ar y traddodiad gan y ffug-hanes a geir yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy.

Pobl a uniaethid â'r Mab Darogan[golygu]

Arthur[golygu]

Yr oedd Arthur, arweinydd chwedlonol y Brythoniaid, yn adnabyddus i'r Cymry am ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Baddon (Brwydr Mons Badonicus) (tua'r flwyddyn 500), a lesteiriodd gynnydd yr Eingl-Sacsoniaid am genhedlaeth. Ganrifoedd ar ôl ei farwolaeth, datblygodd y chwedl fod Arthur a'i ryfelwyr yn cysgu mewn ogof yn rhywle, yn aros am yr amser i ddeffro ac arwain ei bobl. Chwedl ddiweddarach yw honno am Ynys Afallon, sy'n deillio o waith Sieffre o Fynwy). Ond er ei fod yn arweinydd enwog nid yw Arthur yn ffigwr amlwg iawn yn y brudiau Cymraeg a diweddar yw'r cyfeiriadau ato fel Mab Darogan.

Cynan a Chadwaladr[golygu]

Llawer mwy amlwg yn y brudiau o'r cychwyn cyntaf yw'r brenhinoedd cynnar Cynan a Chadwaladr. Yn ôl Armes Prydain byddant yn dychwelyd gyda'i gilydd i arwain y Cymry a'u cynghreiriaid Celtaidd - y Llydawyr, Gwyddelod, Manawyr a'r Albanwyr - i drechu'r Saeson a'u gyrru yn ôl dros y môr i Germania :

Cynan a Chadwaladr, cadr yn lluydd,
Edmygawr hyd Frawd, ffawd a'u deubydd.
Dau unben dygn, dwys eu cwsyl;
Dau oresgyn Saeson o blaid Dofydd;
Dau hael, dau gedawl gwlad warthegydd;
Dau ddiarchar barawd un ffawd un ffydd;
Dau erchwynawg Prydain, mirain luydd;
Dau arth nis gwna gwarth, cyfarth beunydd.[1]

Arhosodd Cynan a Chadwaladr yn ffigurau amlycaf y canu darogan hyd ddiwedd yr Oesoedd Canol. Efallai ei fod yn arwyddocaol hefyd fod Gruffudd ap Cynan, Brenin Gwynedd, wedi enwi ei feibion yn Gadwallon, Owain (gweler isod) a Chadwaladr.

Llywelyn Fawr a Llywelyn Ein Llyw Olaf[golygu]

Ceir awdl gan Dafydd Benfras sy'n cyfarch 'Llywelyn' fel 'y daroganwr' ("mab y Broffwydoliaeth", sef y Mab Darogan). Mae'n anodd dweud at ba Llywelyn y cyfeirir yma; derbynnir yr awdl yn betrus fel 'Mawl Llywelyn ab Iorwerth gan olygydd y gerdd yn y gyfres Beirdd y Tywysogion, ond gellid fod yn awdl i'w ŵyr Llywelyn ap Gruffudd hefyd. Ar ddiwedd yr awdl, sy'n clodfori Llywelyn fel 'brenin y Cymry', ceir y llinellau hyn:

A ddaroganer a gymery,
O bob darogan dawn a geffy,
A ddarogenais a gynyddy,
A ddaroganwyf a gynhely,
Wyt ddaroganwr gan a wely![2]

Ceir awdl i Lywelyn Fawr gan Llywarch ap Llywelyn (Prydydd y Moch) hefyd, sy'n datgan fod Llywelyn yn cyflawni'r hen broffwydoliaethau.[3]

Owain Lawgoch[golygu]

Yng nghanol y 14eg ganrif, syrthiodd mantell y Mab Darogan ar ysgwyddau Owain Lawgoch (1330 - 1378), un o ddisgynyddion uniongyrchol tywysogion Aberffraw ac felly yn ŵr â'r hawl i goron Gwynedd a'r teitl Tywysog Cymru. Cafodd Owain Lawgoch ei gefnogi gan frenin Ffrainc, lle'r oedd yn adnabyddus fel Yvain de Galles (Owain o Gymru), ond cafodd ei fradlofruddio gan asiant yn nhâl Coron Lloegr ym Mortagne-sur-Mer yn 1378 cyn iddo fedru dychwelyd i Gymru a chodi baner y gwrthryfel disgwyliedig. Dyma'r cyfnod pan ddechreuodd corff mawr o gerddi darogan poblogaidd gylchredeg y wlad, yn proffwydoli ail-ddyfodiad y Mab Darogan a'i alw gan amlaf yn "Owain," traddodiad a barhaodd hyd y ganrif olynol.

Mae cerdd ddarogan a briodolir i Rhys Fardd yn cyfeirio at 'Owain' ac 'ymladd yng Nghalais'. Mae un arall, a briodolir i'r Bergam, yn cyfeirio at Owain Lawgoch efallai yn y llinellau hyn sy'n dweud fod rhyfelwr yn Ffrainc sy'n awyddus i ymladd, a fydd yn dial ei dad gyda byddin gyfan:

Ac y mae gwr yn ffraink ffrowddos kyffrank
a ddial i dad o gad gyfan.[4]

Canodd Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd awdl yn annog Owain i ddychwelyd o Ffrainc er mwyn rhyddhau Cymru a goresgyn Lloegr.[5] Ceir cerdd arall iddo a briodolir weithiau i Iolo Goch, er na chafodd ei chynnwys yn yr argraffiad safonol o waith Iolo. Mae cerdd arall, wedi llofruddiaeth Owain, yn awgrymu fod cryn ddisgwyl wedi bod amdano yng Nghymru, a bod meirch ac arfau wedi eu paratoi i ymladd drosto:

Gwiliaw traethau yn ieufanc
Gorllanw ffrwyth gorllwyn Ffrainc
Prynu meirch glud hybarch glod
Ac arfau ar fedr gorfod
Yn ôl oiri yr aeth ini
Er edrych am ŵyr Rodri
Llyna och ym lle ni chawdd
Lleddid, a diawl a'i lladdawdd.[6]

Mae'r ansoddair llawgoch ei hun yn awgrymiadol yng ngyd-destun y brudiau. Gellir ei ddeall yn llythrennol fel ansoddair sy'n addas i arwr, wrth reswm, ond ceir tystiolaeth bod staen neu farc coch ar y llaw yn arwydd meseianig yn nhraddodiad Iwerddon, e.e. yn achos Cathal Crobderg (Llawgoch), Brenin Connacht (bu farw 1224).[7]

Owain Glyndŵr[golygu]

Yr oedd Owain Glyndŵr yn un o ddisgynyddion brenhinoedd Powys sy'n enwog am y gwrthryfel a arweiniodd yn erbyn rheolaeth y Saeson ar Gymru yn negawd gyntaf yr 15fed ganrif. Llwyddodd Owain am gyfnod i yrru'r Saeson allan o Gymru yn gyfangwbl bron, ac roedd ganddo gynlluniau uchelgeisiol i sefydlu Cymru rydd annibynnol gyda'i senedd a'i phrifysgolion ei hun, ond methodd y gwrthryfel yn y diwedd. Ni wyddys beth ddigwyddodd i Owain. Diflanodd o dudalennau hanes ond, fel yn achos Arthur, daeth yn ffigwr llên gwerin y credid ei fod yn cysgu mewn ogof yn aros ei ddydd.

Yn naturiol ddigon, gelwid Owain Glyndŵr yn Fab Darogan a cheir corff sylweddol o ganu darogan sy'n perthyn, yn ôl pob tebyg, i'w gyfnod. Ceir 'Owain' fel enw am y Mab Darogan mewn nifer fawr o gerddi brud poblogaidd o ddiwedd yr Oesoedd Canol, ond mae'n anodd eu dyddio yn fanwl; mae'r mwyafrif i'w dyddio i'r 15fed ganrif ac felly'n perthyn i gyfnod Glyndŵr neu gyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau pan oedd y cof amdano fel arweinydd cenedlaethol yn fyw iawn. Mae cerdd rydd a briodolir i Daliesin yn perthyn i gyfnod y gwrthryfel, yn ôl pob tebyg. Cyfeiria at "arth (rhyfelwr) sych (Sycharth?)" a rhyfelwr arall o Eryri yn codi yn erbyn y Saeson. Yna bydd:

Llawer celain gan frain,
Llawer cleddau heb wain,
Llawer diras Sais heb gyweithas,
A blaidd Glyndyfrdwy yn rhannu'r deyrnas.[8]

Mae'n bosibl fod "rhannu'r deyrnas" yma yn gyfeiriad at y Cytundeb Tridarn.

Credai Glyndŵr ei hun yn y proffwydoliaethau a gwyddys iddo ymgynghori â Hopcyn ap Tomas, uchelwr hyddysg yn y brudiau, ym 1404. Gwyddys fod gan Glyndŵr fardd teulu o'r enw Crach Ffinnant gydag enw iddo'i hun fel brudiwr ; bu gyda Glyndŵr yng ngarsiwn Berwick yn 1384 ac yng Nglyndyfrdwy pan gyhoeddwyd Owain yn Dywysog Cymru ym Medi 1400.

Cofnododd Elis Gruffydd ("Y Milwr o Galais)", chwedl am Owain yn 1548. Roedd Abad Abaty Glyn y Groes wedi codi yn fore, ac yn cerdded ar y Berwyn. Cyfarfu ag Owain Glyndŵr, a'i cyfarchodd ef "Syr Abad, rydych wedi codi yn rhy fore". "Na", atebodd yr abad, "chychwi a godasoch yn rhy fore, o gan mlynedd".[9]

Harri Tudur[golygu]

Parhaodd y traddodiad brudol i flodeuo yn y blynyddoedd ansefydlog a welodd Gymru'n cael ei sugno i mewn i Ryfeloedd y Rhosynnau a'r ymgiprys am rym rhwng yr Iorciaid a'r Lancastriaid yn Lloegr. Yn chwarter olaf y ganrif roedd gobeithion y Cymry am weld ail-ddyfodiad y Mab Darogan yn troi o gwmpas Harri Tudur, un o ddisgynyddion Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr, a thrwy ei dad Edmwnd Tudur yn ŵr a hawliai Goron Lloegr. Gyda chymorth ei ewythr Siasbar Tudur, Iarll Penfro, llwyddodd Harri yn ei uchelgais ar ôl glanio ym Mhenfro ac arwain byddin o Gymry ac eraill i fuddugoliaeth ar Rhisiart III o Loegr ym mrwydr Maes Bosworth yn Awst 1485. I baratoi'r ffordd, yr oedd nifer o gerddi darogan wedi bod yn cylchredeg yn cyfeirio at "Harri" fel y Mab Darogan. Defnyddiodd Harri Tudur a'i gefnogwyr y canu hwn i hyrwyddo eu hachos. Pan laniodd Harri ym Mhenfro, cododd faner Cadwaladr (gweler uchod) cyn cychwyn ar ei ymdaith trwy Gymru. Byddai arwyddocâd y weithred honno yn amlwg i bob Cymro : hwn oedd y Mab Darogan. Daliodd rhai i gredu fod proffwydoliaeth y Mab Darogan yn cael ei chyflawni gydag esgyniad Harri Tudur i Goron Lloegr. Gwyddai Harri mor ddefnyddiol iddo oedd y traddodiad a galwodd ei fab cyntafanedig yn Arthur Tudur.

Daeth Arthur Tudur yn Dywysog Cymru yn 1501 ac yn nes ymlaen llywodraethodd Gymru o'i phrifddinas de facto yn Llwydlo, gan ddiddymu'r gwaethaf o'r deddfau penyd yn erbyn y Cymry a wnaethpwyd ar ôl methiant gwrthryfel Owain Glyndŵr. Ond bu farw mewn amgylchiadau amheus ac ni ddaeth "Arthur" yn frenin Lloegr. Gŵr cwbl wahanol oedd ei frawd Harri, a anwybyddodd Gymru pan esgynodd i'r orsedd fel Harri VIII. Eithriad i'r esgeulustra hwnnw oedd Deddfau Uno 1536 a 1543.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Armes Prydein Fawr, llau. 163-4. Mewn orgraff ddiweddar.
  2. N. G. Costigan (gol.), Gwaith Dafydd Benfras ac eraill (Aberystwyth, 1995). 'Mawl Llywelyn ab Iorwerth', llinellau 53-57, tud. 419.
  3. Owen of Wales, tud. 89.
  4. Owen of Wales, tud. 90.
  5. Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein
  6. Elissa R. Henken National redeemer: Owain Glyndŵr in Welsh tradition t. 50
  7. James Carney, 'Literature in Irish, 1169-1534' yn Art Cosgrove (gol.), Medieval Ireland 1169-1534, dyfynnir yn Owen of Wales, tud. 119n.
  8. Gruffydd Aled Williams, Owain y beirdd (Aberystwyth, 1998), tud. 11. Golygwyd y testun gan y Dr. Gruffydd Fôn Gruffydd.
  9. Elissa R. Henken, National Redeemer (Caerdydd, 1996), tt. 72-3

Llyfryddiaeth[golygu]

  • A. D. Carr, Owen of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991)
  • Elissa P. Henken, National Redeemer, Owain Glyndŵr in Welsh Tradition (Gwasg Prifysgol Cymru, 1996). ISBN 0-7083-1290-X
  • David Rees, The Son of Prophecy [:] Henry Tudor's Road to Bosworth (1985 ; ail argraffiad Rhuthun, 1997). ISBN 1-871083-01-X
  • Ifor Williams (gol.), Armes Prydein (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995)