Penn-ar-Bed
Oddi ar Wicipedia
Mae Penn-ar-Bed (Ffrangeg: Finistère) yn département yn Llydaw. Penn-ar-Bed yw'r mwyaf gorllewinol o bedwar (neu bump) département Llydaw, ac yma mae'r iaith Lydaweg gryfaf.
Trefi[golygu]
Y prif drefi yw:
- Kemper, ar lan Afon Oded
- Brest, porthladd
- Douarnenez, porthladd
- Gwipavaz
- Fouenant
- Kastellin, ar lan y Stêr Aon
- Kemperle, ar lan Afon Elle
- Konk-Kerne
- Landerne, ar lan Afon Elorn
- Montroulez
- Plougastell-Daoulaz
- Plouzane
- Ar Releg-Kerhuon
Hanes a thraddodiadau[golygu]
Ceir beddrod traddodiadol y Santes Non, mam Dewi Sant, yn Penn-ar-Bed. Am ganrifoedd perfformid y ddrama firagl Lydaweg Buhez Santez Nonn (Buchedd Santes Non) yno.