Douarnenez

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Douarnenez

Porthladd yn département Penn-ar-Bed yn Llydaw yw Douarnenez. Saif ar Fae Douarnenez, 25 km (15 milltir) i'r gogledd-orllewin o ddinas Kemper. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 15,827.

Pysgota yw'r prif ddiwydiant, ac mae ffatrioedd i roi pysgod mewn caniau yma, ond erbyn hyn mae twristiaeth wedi dod yn bwysig hefyd.

Yn ôl y chwedl, safai dinas Kêr-Ys yn yr hyn sy'n awr yn Fae Douarnenez, chwedl debyg i chwedl Cantre'r Gwaelod. Enwyd yr ynys yn y bae yn wreiddiol yn Ynys Sant Tutuarn, ond yn ddiweddarach cafodd ei henwi ar ôl Trystan o chwedl Trystan ac Esyllt. Adeiladwyd priordy ar yr ynys yn gynnar yn y 12fed ganrif.

Canodd Meic Stevens y gitarydd o Solfa gân am y dref.

Gweler hefyd[golygu]

Flag of Brittany (Gwenn ha du).svg Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.