Owain Tudur

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfau Owain Tudur

Milwr, gŵr llys, a phriod dirgel Catrin o Valois, gweddw Harri V o Loegr, oedd Owain Tudur (tua 14002 Chwefror 1461). Tadcu Harri Tudur trwy ei fab Edmwnd Tudur oedd ef. O'i bedwar mab arall y pwysicaf fu Siasbar Tudur, Iarll Penfro a Dug Bedford, a ymgyrchai'n galed i gael Harri Tudur ar orsedd Lloegr. Yr oedd Owain Tudur yn yn o ddisgynyddion Ednyfed Fychan, canghellor Llywelyn Fawr. Roedd yn perthyn i Duduriad Môn trwy ei dad Maredudd ap Tudur, brawd Rhys ap Tudur a Goronwy ap Tudur a ymunasant ag Owain Glyn Dŵr yn ei wrthryfel yn erbyn y Saeson. Penmynydd ar Ynys Môn oedd ystâd y teulu.

Llinach[golygu]

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Goronwy ap Tudur Hen
(Teulu Ednyfed Fychan)
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gruffudd Fychan II
m. cyn 1340
 
 
 
Elen ferch Tomos
 
Marged ferch Tomos
 
Tudur ap Goronwy
m. 1367
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Glyn Dŵr
c. 1354 - c. 1414
 
 
Maredudd
m.1406
 
Rhys
m. 1409
 
Gwilym
m. 1413
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Tudur

Ei ddiwedd[golygu]

Dienyddiwyd ef yn Henffordd ar orchymyn Edward Iarll y Mers wedi i'r Lancastriaid golli'r dydd ym Mrwydr Mortimer's Cross yn 1461. Yn ôl un croniclydd, nid oedd yn credu y byddai Edward mor ansifilriaidd â'i ddienyddio tan y gwelodd y blocyn pren yn barod iddo.

'Yna dywedodd, "Y pen hwn a osodir ar y blocyn pren a orffwysai gynt yn arffed y frenhines Catrin", a chan gyflwyno ei feddwl a'i galon i Dduw, aeth yn llariaidd i'w dranc.'[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Dyfynnir yn David Fraser, Yr Amddiffynwyr (cyfieithiad Cymraeg gan Bedwyr Lewis Jones, Caerdydd, 1967), tud. 223.

Llyfryddiaeth[golygu]

Llyfrau hanes[golygu]

  • W. Ambrose Bebb, Cyfnod y Tuduriaid (1939)
  • H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (1915)

Ffuglen[golygu]

  • William Pritchard, Owen Tudur (Caernarfon, 1913). Rhamant hanesyddol seiliedig ar draddodiadau lleol am Owain Tudur ar Ynys Môn.