Penmynydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Gredifael, Penmynydd
Ffenestr liw fyd-enwog teulu'r Tuduriaid yn yr eglwys

Mae Penmynydd yn bentref a chymuned ar Ynys Môn, ar y ffordd gefn B5420 rhwng Porthaethwy a Llangefni. Mae'n rhan o gymuned Penmynydd a Star.

Hanes[golygu]

Mae'r pentref yn fwyaf adnabyddus oherwydd teulu Tuduriaid Penmynydd, disgynyddion Ednyfed Fychan. Yma y cafodd Owain Tudur ei eni yn 1400, a fu yn ymladd gyda'r brenin Harri'r V a priododd weddw y brenin Catherine de Valois, pan fu hwnnw farw. Cafodd ei garcharu a'i ladd am hynny. Roedd Harri'r VII yn wyr iddo.

Adeiladwyd y plasdy presennol, Plas Penmynydd, yn 1576, ond bu plasdy cynharach ar yr un safle neu gerllaw. Ymwelodd y bardd Iolo Goch â'r plasdy rhywbryd yn y cyfnod 1367-82. Mae'n moli croeso hael Goronwy ap Tudur Fychan (Gronw Fychan) ac yn cymharu Penmynydd i aelwyd llys Urien Rheged:

Cyntaf lle'r af, llew a rydd,
Caer Pen Môn, carw Penmynydd,
Tŷ, gwelais gynt, teg wiwle,
Tudur Llwyd, da ydyw'r lle;
Yno mae, heb gae ar ged,
Ail drigiant aelwyd Rheged.[1]

Mae beddfaen alabaster cerfiedig Gronw Fychan, a fu farw yn 1382, gyda'i wraig Myfanwy, i'w weld yn eglwys y plwyf, sydd wedi ei chysegru i Sant Gredifael.

Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn y 14eg ganrif, yn ail-ddefnyddio rhai cerrig o'r eglwys flaenorol, a adeiladwyd yn y 12fed ganrif. Mae'n cynnwys ffenestr liw gyda nifer o symbolau'r Tuduriaid a'r arwyddair Undeb fel Rhosyn yw ar lan Afonydd ac fel Tŷ Dur ar Ben y Mynydd. Mae'r geiriau 'ty' a 'dur' wrth gwrs yn rhoi 'Tudur' i ni.

Adeiladau eraill o ddiddordeb yn y pentref yw'r hen elusendai, a adeiladwyd yn 1620 yn unol ag ewyllys Lewis Rogers.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Penmynydd (pob oed) (465)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Penmynydd) (333)
  
73.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Penmynydd) (354)
  
76.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Penmynydd) (51)
  
28.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988). Cerdd V, ll. 47-52
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolenni allanol[golygu]