Bodffordd

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yng nghanol Ynys Môn yw Bodffordd (neu Botffordd). Fe'i lleolir ar y lôn gefn B 5109 tua dwy filltir a hanner i'r gorllewin o Langefni, ar ben deheuol Llyn Cefni. Tri chwarter milltir i'r de mae Heneglwys ac mae Bodffordd ei hun yn rhan o'r plwyf honno.

Ystyr yr enw Bodffordd yw 'Anedd ar y ffordd', sef yr hen ffordd fawr ar draws Môn, o Borthaethwy i Gaergybi. Roedd Bodffordd yn perthyn i Esgob Bangor gynt; gelwid y "dref" fechan yn Bodffordd Ddeiniol (ar ôl Deiniol Sant, sefydlydd Eglwys Gadeiriol Bangor yn ôl y traddodiad) neu Bodffordd Esgob. Roedd yn rhan o gwmwd Malltraeth, cantref Aberffraw.

Cafodd Bodffordd ei ddewis fel lleoliad Eisteddfod Môn 2007.

Fymryn i'r gorllewin o'r pentref ceir Maes Awyr Môn.

[golygu] Cyfeiriadau

  • Melville Richards, 'Enwau Lleoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972), tud. 156.
Ieithoedd eraill