Llanfwrog, Ynys Môn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°19′32″N 4°33′04″W / 53.325506°N 4.551018°W / 53.325506; -4.551018

Llanfwrog, Ynys Môn
Llanfwrog is located in Ynys Môn
Llanfwrog

Llanfwrog Ynys Môn
Cyfeirnod grid yr AO SH38SW08
    - Caerdydd 140.1 mi (225.5 km)  
    - Llundain 224.7 mi (361.6 km)  
Cymuned Llanfaethlu
Sir Ynys Môn
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Caergybi
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Ynys Môn
Cynulliad Cymru Ynys Môn
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ynys Môn

Pentref bychan yng nghymuned Llanfaethlu ar Ynys Môn yw Llanfwrog a leolir yng ngogledd-orllewin yr ynys rhwng Llanfachraeth i'r de a Llanfaethlu i'r gogledd, tua 4 milltir i'r dwyrain o dref Caergybi. Saif y pentref ger yr arfordir tua milltir i'r dwyrain o Draeth y Gribin. Mae ffordd wledig yn ei gysylltu â'r A5025, un filltir i'r dwyrain, a Llanfaethlu, tua 2.5 milltir i'r gogledd. Mae 140.1 milltir (225.4 km) o Gaerdydd a 224.7 milltir (361.7 km) o Lundain.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglwys Llanfwrog

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llanfwrog gan Sant Mwrog. Yr unig le arall a gysylltir ag enw'r sant hwnnw yw Llanfwrog, Sir Ddinbych. Yn yr Oesoedd Canol roedd Llanfwrog yn blwyf yn gorwedd yng nghwmwd Talybolion yng nghantref Cemais. Roedd yr eglwys yn gapel ('is-eglwys') yn perthyn i reithoriaeth plwyf Llanfaethlu erbyn y ddeunawfed ganrif.[1]

Cynrychiolaeth etholaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynrychiolir Llanfwrog yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Albert Owen (Y Blaid Lafur).[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Atlas Môn (Llangefni, 1972), mapiau tt. 38, 76.
  2. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato